Symposiwm
Creadigrwydd a Risg: Ymarferion i Ddysgu i Gamu i'r Dirgelwch
Yr Ysgol Berfformio a Chynhyrchu, Prifysgol De Cymru, Caerdydd, Campws Caerdydd, ATRiuM
Dydd Gwener 6 Medi 10.30am-5pm
Mae'r symposiwm hwn yn dod ag addysgwyr y cyfryngau a gweithwyr proffesiynol y diwydiant ynghyd i drafod perthnasedd cefnogi myfyrwyr i gymryd risgiau creadigol wrth baratoi am gyflogaeth yn y diwydiannau creadigol. Bydd y cyflwyniadau academaidd yn canolbwyntio ar arferion pedagogaidd o addysgu risgiau creadigol i israddedigion (sydd yn aml yn amharod i gymryd risgiau). Bydd y diwydiant yn cael ei gynrychioli gan ddatblygwyr ffilm, comisiynwyr, cynhyrchwyr a gwneuthurwyr ffilm annibynnol a fydd yn adlewyrchu'n gritigol ar eu profiadau o feithrin risgiau creadigol o fewn awyrgylch diwydiannol maes cynhyrchu ffilm a theledu a all fod yn gymhleth, amodol a llawn pwysau.
Mae'r rhaglen yn cynnwys:
2 Prif siaradwr gyda sesiynau trafod i ddilyn
Prif Siaradwr: Dr. Rea Dennis (Deakins University, Melbourne)
Prif Siaradwr: Pauline Burt (Prif Swyddog Gweithredol, Ffilm Cymru)
Bydd yna weithdy chwarae pocer ar gynnig i bawb sy'n mynychu yn ystod yr egwyl ginio.
£25.00 Mae'r ffi gofrestru yn cynnwys te, coffi, cinio a'r derbyniad gwyn
Dilynwch y ddolen i gofrestru
store.southwales.ac.uk
Detailed Description. Symposiwm. Creadigrwydd a Risg: Ymarferion i Ddysgu i Gamu i'r Dirgelwch. Dydd Gwener, 6 Medi 2019, 10.30am -5pm, yr Ysgol Berfformio a Chynhyrchu, Prifysgol De Cymru, Campws Caerdydd, yr Atrium.
|
Inga Burrows
Uwch Ddarlithydd mewn Ffilm (Cyfarwydd)
Senior Lecturer Directing
CAA225
Cynhyrchu a Pherfformio | Production & Performance
Cyfadran y Diwydiannau Creadigol | Faculty of Creative Industries
Adeilad yr ATRiuM, Campws Caerdydd
|
ATRiuM Building, Cardiff Campus
Adam St
Caerdydd
| Cardiff
CF24 2FN
T: 01443 661865