Falle bod hynny'n syniad. On Thu, 4 Jul 2019, 00:09 Sian Jones, <[log in to unmask]> wrote: > Oes modd cyfieithu yr hyn a fwriadwyd gan y myfyriwr gyda nodyn mewn > cromfachau gan y cyfieithydd yn nodi'r hyn a roddwyd mewn gwirionedd? > Er enghraifft: 'Prohibition Signs’ [Translators Note: Student used the > term 'Abstention signs' in error]. > > Ydy hynny'n dderbyniol? > Sian > ------------------------------ > *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary > <[log in to unmask]> on behalf of Gareth Jones < > [log in to unmask]> > *Sent:* 03 July 2019 22:47 > *To:* [log in to unmask] > *Subject:* Cyfieithu gwaith cwrs > > > Dwi wrthi’n cyfieithu samplau o waith cwrs yn ymwneud ag iechyd a > diogelwch o’r Gymraeg i’r Saesneg i’w safoni gan gorff dyfarnu cymwysterau > yn Lloegr, ac mae safon y gwaith ysgrifenedig braidd yn simsan mewn mannau. > > > > Mewn cyflwyniad PPT, mae un myfyriwr yn disgrifio arwyddion gwahardd, e.e. > dim ysmygu, ond teitl y sleid ydy ‘Arwyddion Ymatal’. Dwi’n gwybod mai > ‘Prohibition Signs’ ydy’r ystyr mae’r myfyriwr yn ceisio’i gyfleu, ond dydy > ‘ymatal’ ddim yn golygu ‘prohibition’, nac ydy? Mi allai ‘arwyddion ymatal’ > olygu ‘continence signs’, ‘moderation signs’, ‘abstention signs’ neu > ‘self-restraint signs’. > > > > Pe bawn i’n defnyddio ‘prohibition signs’ yn y cyfieithiad, byddai safon y > gwaith yn y cyfieithiad yn well na safon y gwreiddiol. Beth fyddech chi’n > ei ddefnyddio wrth gyfieithu i’r Saesneg i gyfleu darlun teg o waith y > myfyriwr yn yr achos hwn? > > > > Enghraifft arall ydy ‘siacedi uchel-weledigaeth’ – eto, dwi’n gwybod mai > ‘high-visibility jackets’ sydd dan sylw, ond nid ‘visibility’ ydy > ‘gweledigaeth’, naci? Beth fyddech chi’n ei ddefnyddio yn Saesneg i > gyfleu’r union eiriau mae’r myfyriwr wedi’u defnyddio? > > > > Yr unig gyfarwyddiadau ydw i wedi’i gael ydy peidio mynd ati i adlewyrchu > gwallau gramadegol a sillafu yn y cyfieithiad, ond dydy hynny ddim yn > golygu cywiro termau gwallus wrth gyfieithu. > > > > > > > > > > Sent from Mail <https://go.microsoft.com/fwlink/?LinkId=550986> for > Windows 10 > > > > ------------------------------ > > To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following > link: > https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1 > > ------------------------------ > > To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following > link: > https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1 > ######################################################################## To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link: https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1