Dw i ddim yn siwr ei fod yn meddwl 'anerch' ond ym mha drefn y mae'r cyfarfod yn delio gyda chynigion, llythyrau ac ati - mae'r defn yn gallu bod yn bwysig gan fod un cynnig yn gallu adeiladu ar gynnig arall - rwyf wedi gweld triciau yn y gorffennol lle mae rhywbeth ddylai fod yn gynnig yn cael ei drin fel 'gohebiaeth' a thrwy hynny rhoddir sylw iddo ar ddechrau cyfarfod cyn bod y rhan fwyaf o'r aelodau wedi llwyddo i gyrraedd y cyfarfod. Os nad oes term yn bodoli'n barod byddwn i'n awgrymu rhywbeth fel 'trefn trin a thrafod' - mae Gwynedd wedi defnyddio 'trefn trin a thrafod ceisiadau' ond dim ond dwywaith (hyd y gwelaf i). M On Mon, 8 Jul 2019 at 15:28, Claire Richards <[log in to unmask]> wrote: > > Ai ym mha drefn mae pobl yn annerch y cyfarfod sydd dan sylw? > > Os felly, "Hysbysiad cynnig mewn perthynas â'r Drefn Annerch yng nghyfarfod y Cyngor mewn perthynas â Hysbysiadau Cynigion"? > > Claire > > -----Original Message----- > From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Dafydd Timothy > Sent: 08 July 2019 15:13 > To: [log in to unmask] > Subject: Order of Address > > Pnawn da! > Yng nhyd-destun cofnodion cyngor: > > Notice of Motion related to Order of Address at the Council with regards to Notices of Motion... > > Diolch, Dafydd > > > Sent from my iPhone > ######################################################################## > > To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link: > https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1 > > ######################################################################## > > To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link: > https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1 ######################################################################## To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link: https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1