Print

Print


Nodyn i egluro amdani felly. 

Sent from Mail for Windows 10

From: Catrin Alun
Sent: 04 July 2019 11:04
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Cyfieithu gwaith cwrs

Cytuno’n llwyr!

Anfonwyd ar fy ffôn iDot

On 4 Jul 2019, at 09:26, Osian Rhys <[log in to unmask]> wrote:
Fy hunan, byddwn i’n dadlau’n gryf o blaid rhoi e.e. ‘high-visibility jackets’ os yw’n amlwg mai dyna a fwriadwyd. Byddai unrhyw ymgais i roi term ‘gwallus’ Saesneg i gyfateb yn debygol o arwain at annhegwch i’r ymgeisydd yn fy marn i, mewn sefyllfa sy ddim yn ddelfrydol yn barod os yw rhan o’r asesu yn digwydd drwy gyfieithiad. Fy hunan byddwn i’n cadw at ysbryd y cyfarwyddyd i beidio trio adlewyrchu gwallau, ond falle rhoi nodyn yn nodi bod gwallau yn rhai o’r darnau ac yn esbonio cyfyngiadau’r broses o gyfieithu sampl gan nodi y dylai rhywun sy’n siarad Cymraeg edrych drostyn nhw mewn gwirionedd.

Osian


Ar Mer, 3 Gorff 2019 am 23:48 Gareth Jones <[log in to unmask]> ysgrifennodd:
Dwi wrthi’n cyfieithu samplau o waith cwrs yn ymwneud ag iechyd a diogelwch o’r Gymraeg i’r Saesneg i’w safoni gan gorff dyfarnu cymwysterau yn Lloegr, ac mae safon y gwaith ysgrifenedig braidd yn simsan mewn mannau.
 
Mewn cyflwyniad PPT, mae un myfyriwr yn disgrifio arwyddion gwahardd, e.e. dim ysmygu, ond teitl y sleid ydy ‘Arwyddion Ymatal’. Dwi’n gwybod mai ‘Prohibition Signs’ ydy’r ystyr mae’r myfyriwr yn ceisio’i gyfleu, ond dydy ‘ymatal’ ddim yn golygu ‘prohibition’, nac ydy? Mi allai ‘arwyddion ymatal’ olygu ‘continence signs’, ‘moderation signs’, ‘abstention signs’ neu ‘self-restraint signs’. 
 
Pe bawn i’n defnyddio ‘prohibition signs’ yn y cyfieithiad, byddai safon y gwaith yn y cyfieithiad yn well na safon y gwreiddiol. Beth fyddech chi’n ei ddefnyddio wrth gyfieithu i’r Saesneg i gyfleu darlun teg o waith y myfyriwr yn yr achos hwn? 
 
Enghraifft arall ydy ‘siacedi uchel-weledigaeth’ – eto, dwi’n gwybod mai ‘high-visibility jackets’ sydd dan sylw,  ond nid ‘visibility’ ydy ‘gweledigaeth’, naci? Beth fyddech chi’n ei ddefnyddio yn Saesneg i gyfleu’r union eiriau mae’r myfyriwr wedi’u defnyddio? 
 
Yr unig gyfarwyddiadau ydw i wedi’i gael ydy peidio mynd ati i adlewyrchu gwallau gramadegol a sillafu yn y cyfieithiad, ond dydy hynny ddim yn golygu cywiro termau gwallus wrth gyfieithu. 
 
 
 
 
Sent from Mail for Windows 10
 


To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1 


To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1 


To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1 


########################################################################

To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1