Print

Print


Falle bod hynny'n syniad. 

On Thu, 4 Jul 2019, 00:09 Sian Jones, <[log in to unmask]> wrote:
Oes modd cyfieithu yr hyn a fwriadwyd gan y myfyriwr gyda nodyn mewn cromfachau gan y cyfieithydd yn nodi'r hyn a roddwyd mewn gwirionedd? 
Er enghraifft:   'Prohibition Signs’ [Translators Note: Student used the term 'Abstention signs' in error]. 

Ydy hynny'n dderbyniol?
Sian

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]> on behalf of Gareth Jones <[log in to unmask]>
Sent: 03 July 2019 22:47
To: [log in to unmask]
Subject: Cyfieithu gwaith cwrs
 

Dwi wrthi’n cyfieithu samplau o waith cwrs yn ymwneud ag iechyd a diogelwch o’r Gymraeg i’r Saesneg i’w safoni gan gorff dyfarnu cymwysterau yn Lloegr, ac mae safon y gwaith ysgrifenedig braidd yn simsan mewn mannau.

 

Mewn cyflwyniad PPT, mae un myfyriwr yn disgrifio arwyddion gwahardd, e.e. dim ysmygu, ond teitl y sleid ydy ‘Arwyddion Ymatal’. Dwi’n gwybod mai ‘Prohibition Signs’ ydy’r ystyr mae’r myfyriwr yn ceisio’i gyfleu, ond dydy ‘ymatal’ ddim yn golygu ‘prohibition’, nac ydy? Mi allai ‘arwyddion ymatal’ olygu ‘continence signs’, ‘moderation signs’, ‘abstention signs’ neu ‘self-restraint signs’.

 

Pe bawn i’n defnyddio ‘prohibition signs’ yn y cyfieithiad, byddai safon y gwaith yn y cyfieithiad yn well na safon y gwreiddiol. Beth fyddech chi’n ei ddefnyddio wrth gyfieithu i’r Saesneg i gyfleu darlun teg o waith y myfyriwr yn yr achos hwn?

 

Enghraifft arall ydy ‘siacedi uchel-weledigaeth’ – eto, dwi’n gwybod mai ‘high-visibility jackets’ sydd dan sylw,  ond nid ‘visibility’ ydy ‘gweledigaeth’, naci? Beth fyddech chi’n ei ddefnyddio yn Saesneg i gyfleu’r union eiriau mae’r myfyriwr wedi’u defnyddio?

 

Yr unig gyfarwyddiadau ydw i wedi’i gael ydy peidio mynd ati i adlewyrchu gwallau gramadegol a sillafu yn y cyfieithiad, ond dydy hynny ddim yn golygu cywiro termau gwallus wrth gyfieithu.

 

 

 

 

Sent from Mail for Windows 10

 



To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1



To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1



To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1