Onid ydy 'seiat y doethion' cystal, os nad gwell, term na 'think tank' i gyfleu'r ystyr y tu ôl iddo? Er mai trin a thrafod pethau ysbrydol a wneid mewn 'seiat' yn wreiddiol, mae o'n cyfleu'r syniad o bobl yn dod at ei gilydd i ymchwilio'n ddwfn a thrafod pethau o bwys yn ddwys a difrifol a, hefyd, mae'n Gymreig ei naws (er mai benthyciad o'r Saesneg 'society' - 'soseiati' ydyw yn wreiddiol, yn ôl pob tebyg. Ac mae hynny hefyd yn mynd â ni at y syniad o sefydliad, ble mae'r holl ymchwilio, y cyflwyno a'r trafod yn digwydd.). Ac i fynd at ail ran y term, onid pobl ddeallus sydd wedi ymchwilio'n ddwfn a synhwyrol i bethau cyn dod i benderfyniad yw 'doethion'? On Thu, Jun 20, 2019 at 10:51 AM Thomas, Melfyn < [log in to unmask]> wrote: > Siambr Syniadau; > Tŷ Trafod; > Beudy Barn; > Cell canfyddiad/canfyddiadau; > Cymuned Cysyniad; > Twlc Trafod; > Ystafell Ystyriaeth/Ystyried > > Melfyn Thomas > Cyfieithydd / Translator > Adran Gwasanaethau Iaith Gymraeg / Welsh Language Services Department > Pencadlys yr Heddlu / Force HQ > Ffôn / Tel: 01492 804312 > Estyniad/Extension: 04312 > Ebost/Email: [log in to unmask] > > > > > > > -----Original Message----- > From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary > [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Claire Richards > Sent: 20 June 2019 10:00 > To: [log in to unmask] > Subject: Re: Think tank > > Dyma ddiffiniad gwasanaeth gyrfaoedd Prifysgol Rhydychen o'r term: "Think > tanks are research institutes that seek to play a key role in making and > influencing global, regional and national policy." Mae gwefan y gwasanaeth > yn rhoi rhestr o'r sefydliadau hyn yn y DU yn ôl eu meysydd diddordeb a'u > gogwydd gwleidyddol. https://www.careers.ox.ac.uk/think-tanks/ > > Mae rhestrau tebyg gan y Guardian, Wikipedia a Phrifysgol Newcastle, ymysg > eraill. > > Oes modd cadw'r gair 'melin' a chynnwys y gair 'syniadau' i gyfleu > 'think'? Melin syniadau'? > > Claire > > -----Original Message----- > From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary > [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Jones > Sent: 20 June 2019 09:47 > To: [log in to unmask] > Subject: Re: Think tank > > Ann Corkett: > > Geiriadur yr Academi: think-tank: seiat (f) ddoethion (seiadau > doethion)? > > Fel dywedais ychydig ddyddiau'n ol, 'does neb yn meddwl am edrych yn > > Geiriadur yr Academi mwyach. > > Ga i gynnig bod GyA wedi'n methu ni yma: mae sawl ystyr i "think-tank", ac > nid yw seiat ddoethion na melin drafod yn cyfleu'r un sydd erbyn hyn yn > gyffredin. > > Cyfeiriad at yr ymennydd oedd y term yn wreiddiol, yn yr Unol Daleithiau a > cyn y Rhyfel Mawr. Erbyn diwedd yr ugeinfed ganrif mae'r ystyr o seiat > doethion wedi dod i fod. (Mae "Tortoise" yn defnyddio'r term "think-in" > sydd ag arlliw o Haight Ashbury y chwedegau iddo, ond sydd hyd y gwn i yn > enw cymharol newydd.) > > Ond os yw'r "think-tank" yn cyflogi rhywun, mi hoffwn i gynnig mai'r > trydydd ystyr, un ddaeth i fod ar ôl yr Ail Ryfel Byd sydd yma. Yn aml > iawn mi fydd rhein yn ôl y cliché yn "right-wing think-tanks". Mae nhw'n > cyhoeddi barn a cynnig cyngor ar sail ymchil (beth bynnag mae rhywun yn ei > feddwl o safon a rhagfarn yr ymchwil). Nid seiat na melin mo'r Adam Smith > Institute neu Legarum neu'r Bow Group neu Chatham House. Sefydliadau > ymchwil ydyn nhw, ac mi gynigiwn i mai rhywbeth felly ddylai'r enw fod. > > Yn yr ystyr hwn, mae arlliw o (rag)farn i'r enw think-tank sydd ddim yn > "sefydliad ymchwil", ond wela i ddim ffordd amlwg o gyfleu hynny heb > draethu'n helaeth. > > ######################################################################## > > To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following > link: > https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1 > > ######################################################################## > > To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following > link: > https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1 > > ______________________________________________________________________ > This email has been scanned by the Symantec Email Security.cloud service. > For more information please visit http://www.symanteccloud.com > ______________________________________________________________________ > Rydym yn croesawu gohebiaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg - byddwn yn ymateb > yn gyfartal i’r ddwy ac yn ateb yn eich dewis iaith heb oedi. > > We welcome correspondence in Welsh and English - we will respond equally > to both and will reply in your language of choice without delay. > > > Ni ddylid trin e-bost ar y rhyngrwyd fel dull diogel o gyfathrebu. Mae > Heddlu Gogledd Cymru yn monitro'r holl negeseuon e-bost a drosglwyddir ar y > rhyngrwyd yn ogystal â'u cynnwys. > Dim ond er sylw'r sawl y'i cyfeiriwyd hi ato/ati y bwriedir y neges hon. > Os ydych yn derbyn y neges hon mewn camgymeriad, gadewch i'r sawl a'i > gyrrodd wybod a dilëwch hi oddi ar eich system. Gall defnyddio neu > ddatgelu cynnwys y neges hon heb ganiatâd fod yn anghyfreithlon. Efallai > nad yw'r farn a fynegir yn y ddogfen yn bolisi swyddogol. Diolch i chi am > eich cydweithrediad. > Heddlu Gogledd Cymru > > Internet e-mail is not to be treated as a secure means of communication. > North Wales Police monitor all Internet e-mail activity and content. > This communication is intended for the addressee(s) only. Please notify > the sender if received in error and erase from your system. Unauthorised > use or disclosure of the content may be unlawful, Opinions expressed in > this document may not be official policy. Thank you for your co-operation. > North Wales Police > > > ######################################################################## > > To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following > link: > https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1 > ######################################################################## To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link: https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1