Bore da bawbSut mae'r awen greadigol bore 'ma?Mae cyfaill sy'n ymwneud â "Plaid Pride" (grŵp cefnogwyr lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws Plaid Cymru) wedi cysylltu, maen nhw'n bwriadu gwneud crysau-T sy'n dweud:"More Pride - Less Prejudice"Ac maen nhw'n awyddus i gael rhywbeth bachog yn Gymraeg y byddai modd ei roi ar y crysau-T hefyd.Tybed oes rhywun yn gallu meddwl am rywbeth fyddai'n gweithio yn Gymraeg? Dw i wedi bod yn trio meddwl am enwau llyfrau/dramâu/rhaglenni teledu Cymraeg y byddai modd eu haddasu mewn ffordd debyg... Maen nhw'n nodi nad oes angen cyfieithiad llythrennol ond fod eisiau rhywbeth bachog!Diolch yn fawr am unrhyw syniadau neu hanner syniadau!Osian
To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1