Yn yr enghraifft gan gyngor Môn, maen nhw'n defnyddio "caffael" am "acqusition". "Cais" ydi'r gair sy'n cyfateb i "requisition" yn y dyfyniad. Geraint Ar 17/06/2019 09:20, ysgrifennodd Claire Richards: > Hyd y gwela i, 'cais' sy’n cael ei ddefnyddio fel enw mewn deddfwriaeth ac mae enghraifft o 'gofyn' fel berf yn Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir a Diwygiadau Amrywiol (Cymru) 2010 . Rhaid nodi bod y rhain i gyd yn ymwneud â chyfarfodydd. > > Claire > > -----Original Message----- > From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Aled Davies > Sent: 15 June 2019 11:55 > To: [log in to unmask] > Subject: requisition > > Dw i'n gwybod bod trafodaeth am y term hwn wedi bod ar y fforwm flynyddoedd yn ôl, ond cyd-destun ac ystyr gwahanol sydd gen i. Mi oedd Ann Corkett wedi holi am yr ystyr hwn ond heb gael (na chynnig) ateb hyd y gwela i. > > Beth sydd gen i ydy "requisition a water main" (neu gall fod yn garthffos hefyd). > > Mae'n golygu gwneud cais i'r cwmni dŵr am gysylltiad â'r cyflenwad/carthffos, ond pan fydd datblygwr yn cyflwyno "requisition notice", mae rhaid i'r cwmni dŵr ddarparu yn ôl y gyfraith (cyn belled a bod y datblygiad yn un cyfreithlon). Mae gan Dŵr Cymru ddogfen ar-lein sy'n defnyddio "meddiannu", sy'n amlwg yn hollol rong. Dw i wedi ffeindio rhywbeth mewn dogfen gynllunio gan gynghorau Môn a Gwynedd sy'n defnyddio "caffael" - "..bydd yn ofynnol i brif bibellau dŵr oddi ar y safle gael eu darparu at ffin ac o fewn y safle datblygu. Gellir caffael y gwasanaeth hwn trwy ddarpariaethau cais o dan adrannau 40-41 Deddf Diwydiant Dŵr 1991 (fel y'i diwygiwyd)." > > "..there may be a requirement for off-site water mains to be provided to the boundary of and within the development site. This service can be acquired through requisition provisions under sections 40-41 Water Industry Act 1991 (as amended)." > > Dw i'n rhyw feddwl fallai mai dyna'r cynnig gorau, os nad oes gan rywun awgrym gwell. Ar gyfer"Requisitioner" wedyn, "Gofynnydd" sydd gen i. > > Diolch > Aled > > ######################################################################## > > To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link: > https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1 > > ######################################################################## > > To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link: > https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1 > > > --- > This email has been checked for viruses by AVG. > https://www.avg.com ######################################################################## To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link: https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1