Diolch, Delyth; 'rwyf newydd gofrestru. Byddaf yn edrych ar fegera gwely gan gydnabod dros nos, gan fod mod i'n mynd yn hen i godi mor gynnar cyn gyrru mor bell. Os methaf, tybed a fyddai modd trefnu lifft a rhywun (a rhannu costau petrol os dymunir/caniateir)? Ga i ddweud dau beth? (1) 'Rwy'n gweld technoleg adnabod llais fel peth *hynod* o bwysig ar gyfer cyfieithu i'r Gymraeg. 'Rwyf wedi defnyddio technoleg adnabod llais Saesneg, o dro i dro, ers blynyddoedd. 'Roedd gen i fersiwn cynnar, nad oedd yn arbennig o dda. Cefais dalp mawr o waith rywdro, oedd yn llawer hwy na'r disgwyl, a’r dyddiad cwblhau wedi’i newid o’r hyn'roedden ni wedi cytuno. Prynais fersiwn diweddaraf y dechnoleg ar lein, ei ddysgu mewn dim o beth, ac mi dalodd amdano fo ei hun wrth imi gwblhau darn o waith a fyddai wedi bod y tu hwnt i'm gallu heblaw am hynny. (2) Efallai cawn air am hyn, Delyth. (a) 'Rwy'n cael llond bol ar weld pobl yn gofyn ar bob math o grwpiau Facebook am gyfieithiadau "top eich pen" am eiriau sydd eisoes yn Geiriadur yr Academi. Mae fel petai'r bobl 'ma heb fod yn ymwybodol bod geiriaduron mewn bodolaeth, ac mae perygl creu *termau* newydd. 'Dw i ddim yn gwadu bod modd gwella ar rai o gynigion GyrA, ond dylai pobl o leiaf edrych arnyn nhw cyn eu gwrthod! Mae cymaint yn fwy o niwsans droi at GyrA ar lein nag y mae i droi at Eiriadur y Brifysgol. Pan mor anodd fyddai hi i drefnu mynediad trwy ap? (b) Nid y pobl yn sylweddoli (bu enghraifft yn ddiweddar) arwyddocâd y tudalennau pinc yn GyrA ar lein - sef nad yw'r trosglwyddo’r cofnod hwnnw o'r fersiwn caled wedi'i gwblhau. Fel hyn maent yn methu dod o hyd i dermau sydd eisoes ar gael. Oni fyddai'n beth da gwario ar *gwblhau* y gwaith o drosglwyddo - a hefyd wneud yr holl gywiriadau y mae pobl wedi bod yn eu nodi dros y blynyddoedd? (c) Mae gennym beth wmbreth o ychwanegiadau (nid cywiriadau yn unig) y mae Bruce wedi bod yn eu hel dros y blynyddoedd. Mae rhai wedi'u teipio gen i; rhai i'w gwneud o hyd. Mi wn y byddai hyn yn brosiect newydd - ond yn werth ei wneud? APEL (byddaf yn anfon y neges hon ar wahân hefyd, rhag ofn na fydd pawb yn darllen mor bell a hyn: Ryw ddeunaw mis yn ôl, cefais anhap ar y cyfrifiadur a cholli rhai o'r ffolderi negeseuon 'roeddwn wedi'u creu. Un o'r ffolderi hyn oedd yr un lle cedwais gywiriadau yr oedd pobl wedi'u hanfon o dro i dro i Eiriadur yr Academi. Os ydych chi erioed wedi anfon cywiriad ataf, a fyddwch chi gystal a'i anfon eto, rhag ofn na chafodd ei nodi cyn i'r ffolder fynd ar goll? Byddai'n dda rhoi pennawd "Cywiriad - Geiriadur yr Academi" i'm helpu i'w ddidoli. Addawaf nodi'ch cywiriad yn fuan, yn lle dim ond creu ffolder newydd! Diolch yn fawr iawn. Ann On 04/06/2019 09:52, Delyth Prys wrote: > > Annwyl bawb, > > Os oes gennych chi ddiddordeb mewn technoleg cyfieithu neu ryw agwedd > arall ar dechnolegau iaith, mae cyfle i chi ddod i weithdy ymarferol > yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aber ar 18 Mehefin eleni. Bydd y > gweithdy yn dangos sut i ddefnyddio rhai o’r adnoddau sydd wedi’u > cyhoeddi ar y Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol > http://techiaith.cymru . > > Mae’r gweithdy yn rhad ac am ddim ac yn cael ei noddi gan Gronfa > Cynyddu Effaith yr ESRC a Phrifysgol Bangor, ar y cyd gyda’r Llyfrgell > Genedlaethol. > > Ceir mwy o fanylion yn > http://techiaith.cymru/cynadleddau/gweithdy-ymarferol-ar-y-porth-technolegau-iaith-cenedlaethol-cymru-18-mehefin-2019/ > . > > Bydd angen cofrestru ymlaen llaw cyn medru dod i’r gweithdy. > > Gan obeithio gweld rhai ohonoch chi yno, > > Delyth > > http://www.bangor.ac.uk/emailtpl/logo-a2.png <http://www.bangor.ac.uk/> > > > > *Delyth Prys* > Pennaeth Uned Technolegau Iaith > Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr > > E-bost: [log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]> > Ffôn: +44 (0)1248 382800 > > Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG > > http://www.bangor.ac.uk/emailtpl/twitter-16.png@prifysgolbangor > <https://twitter.com/prifysgolbangor> > http://www.bangor.ac.uk/emailtpl/facebook-16.png/PrifysgolBangor > <https://www.facebook.com/PrifysgolBangor> > > > > *Delyth Prys* > Head of the Language Technologies Unit > Language Technologies Unit, Canolfan Bedwyr > > Email: [log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]> > Phone: +44 (0)1248 382800 > > Bangor University, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG > > http://www.bangor.ac.uk/emailtpl/twitter-16.png@BangorUni > <https://twitter.com/BangorUni> > http://www.bangor.ac.uk/emailtpl/facebook-16.png/BangorUniversity > <https://www.facebook.com/BangorUniversity> > > *Mae croeso i chi gysylltu gyda'r Brifysgol yn Gymraeg neu Saesneg* > > *You are welcome to contact the University in Welsh or English* > > *Rhif Elusen Gofrestredig 1141565 - Registered Charity No. 1141565* > > Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi, > gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig > gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y > neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar unwaith > a dilewch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi, rhaid i > chi beidio a defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a gynhwysir > ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i hanfonodd yn > unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn Prifysgol Bangor. Nid > yw Prifysgol Bangor yn gwarantu bod y neges e-bost hon neu unrhyw > atodiadau yn rhydd rhag firysau neu 100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn > wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn nhestun yr e-bost, nid bwriad y > neges e-bost hon yw ffurfio contract rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr > awdurdodedig ar gael o Swyddfa Cyllid Prifysgol Bangor. > > This email and any attachments may contain confidential material and > is solely for the use of the intended recipient(s). If you have > received this email in error, please notify the sender immediately and > delete this email. If you are not the intended recipient(s), you must > not use, retain or disclose any information contained in this email. > Any views or opinions are solely those of the sender and do not > necessarily represent those of Bangor University. Bangor University > does not guarantee that this email or any attachments are free from > viruses or 100% secure. Unless expressly stated in the body of the > text of the email, this email is not intended to form a binding > contract - a list of authorised signatories is available from the > Bangor University Finance Office. > > > ------------------------------------------------------------------------ > > To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following > link: > https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1 > > ######################################################################## To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link: https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1