Cymal sy’n cael ei gynnwys mewn disgrifiadiadau o swyddi athrawon dosbarth sydd dan sylw. Dyma’r cymal:

 

Utilise relevant pedagogies and disciplines within and across subject content, areas of learning and cross-curricular themes in both planning and delivery

 

Addysgeg ydy pedagogy wrth gwrs, ond does na ddim ffurf luosog yn Gymraeg (hyd ag y gwn i).

 

Wrth gwrs, mae pedagogy (fel enw unigol) yn golygu rhywbeth gwahanol i ddull o addysgu, ond tybed a yw’r defnydd o’r enw lluosog yn cyfiawnhau defnyddio ‘dulliau o addysgu’ yn yr achos hwn?

 

Yr unig broblem ydy’r defnydd o ‘teaching methods’ yn y cymal dilynol:

 

Deploy a wide range of teaching methods and blended learning experiences

 

A oes unrhyw ffordd arall o gyfleu pedagogies, i osgoi defnyddio ‘dulliau o addysgu’ ddwywaith? Neu a fyddech chi’n defnyddio ‘dulliau o addysgu’ yn y ddau gymal?

 

 

Sent from Mail for Windows 10

 



To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1