Print

Print


Neges ddwyieithog yw hon - Gweler isod ar gyfer y fersiwn Saesneg / This is a bilingual message - Please see below for English version
 
Ailwampio eich arddangosfa heb dalu gormod
Amgueddfa Dinbych – Rhagfyr 12 2018
 
 
Mae’r cwrs hwn yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n agored i staff a gwirfoddolwyr sy’n gweithio mewn amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd yng Nghymru.
 
Nod
Cynnig diwrnod hwyliog ac ymarferol i bobl sy’n gweithio mewn amgueddfeydd er mwyn eu helpu i edrych ar ffyrdd i ailwampio ac adnewyddu eu arddangosiadau am y nesaf peth i ddim..
 
Amcanion ar gyfer y diwrnod:
 
 
Mae’r diwrnod hwn yn addas i’r canlynol:
Gwirfoddolwyr a staff cyflogedig sy’n gyfrifol am unrhyw fath o gasgliad amgueddfa sy’n dymuno adnewyddu eu arddangosiadau. Rhoddir pwyslais ar agweddau ymarferol ac arbed arian.
Ni dderbynnir mwy nag 20 o gynrychiolwyr.
 
Caiff yr hyfforddiant ei arwain gan:
Vicky Dawson – Mae Vicky yn guradur amgueddfeydd llawrydd sydd wedi bod yn gweithio ar ei phen ei hun mewn amgueddfeydd heb gyllideb, felly mae wedi hen arfer â rheoli a hynny am y nesaf peth i ddim, o ran arian, sgiliau a deunyddiau. Yn fwy diweddar mae wedi datblygu sawl arddangosfa deithiol fawr yn y de-orllewin ac ysgrifennu’r sgript ar eu cyfer, ac mae ar hyn o bryd yn Gynghorydd Technegol Achredu ar gyfer y rhanbarth, gan ddarparu hyfforddiant ar amrywiaeth o bynciau.
 
 
Datganiad o ddiddordeb
 
I fynegi eich diddordeb yn y cwrs yma llenwch y ffurflen amgaeedig a’i dychwelyd i [log in to unmask]
 
Ceisiadau yn cael eu cyfyngu i 2 y sefydliad, fodd bynnag, rydym yn hapus i roi unrhyw geisiadau eraill ar restr aros rhag ofn na fydd y cwrs yn llawn. Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais, cewch neges a gynhyrchir yn awtomatig i gadarnhau bod eich cais wedi ei dderbyn. Nodwch nad yw eich lle yn warantedig hyd nes y byddwch yn derbyn gwahoddiad i'r cwrs gan MALD.
 
 
Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Os bydd eich amgylchiadau’n newid ac na fyddwch yn gallu mynd ar y cwrs wedi'r cyfan, cysylltwch â Charlie Kingsbury ar unwaith drwy e-bostio [log in to unmask] neu ffoniwch 0300 062 2050 er mwyn i rywun arall ar y rhestr aros allu mynd yn eich lle.
 
Ni fyddwn bellach yn darparu cinio ar gyfer digwyddiadau hyfforddi er mwyn i ni allu cynnal amrywiaeth mor eang â phosibl o gyfleoedd hyfforddi. Serch hynny, byddwn yn parhau i gynnig te a choffi wrth i chi gyrraedd ac yn ystod egwyliau. Byddwn hefyd yn darparu gwybodaeth am y darparwyr bwyd lleol sydd gerllaw lleoliad yr hyfforddiant.
 
Bydd pob gohebiaeth sy'n ymwneud â'r cwrs hwn yn cael ei hanfon atoch yn electronig ar ôl ichi gofrestru; felly, gofynnwn am gyfeiriad e-bost unigol ar gyfer pob cynrychiolydd.
 
Revamping your exhibition on a Shoestring
Denbigh Museum – December 12th 2018
 
This course is provided by the Welsh Government.  It is open to staff and volunteers working in museums, archives and libraries in Wales.
 
Aim
 
To offer museums a fun and practical day to explore ways to revamp and refresh their displays with little or no budget
 
Objectives for the day:
 
 
This day is recommended for:
Volunteers and paid staff with responsibility for any sort of museum collection who would like to refresh their displays, with an emphasis on practicality and economy.
Max. 20 delegates
 
The training will be led by:
Vicky Dawson is a freelance museum curator who has operated as a one man band in museums with no budgets ) and so is well used to managing on a shoestring, in terms of cash, skills and materials. More recently she has developed and written the script for several major touring exhibitions in the South West and is currently Accreditation Technical Adviser for the region, delivering training on a range of subjects.
 
Expression of interest
 
Please express your interest in this course by completing the attached form and returning it to [log in to unmask]
 
Requests are limited to 2 per organisation however we are happy to waitlist any others in the event the course is not fully subscribed. Once you have submitted your request your will receive an automatically generated message to confirm that your request has been received. Please note your place is not guaranteed until you receive an invitation to the course from MALD.
 
Spaces are limited. If your circumstances subsequently change and you can no longer attend notify Charlie Kingsbury immediately on [log in to unmask] or 0300 062 2050 so your place can be awarded to someone on the waitlist.
 
In order to maintain as wide a range of training opportunities as possible MALD will no longer provide lunch for training events. We will continue to provide tea and coffee on arrival and during breaks. We will also provide information on available food providers located conveniently near the venue.
 
All correspondence relating to this course will be sent out electronically once you have registered; therefore you must supply an individual email address for each delegate.
 
 
Tîm Datblygu'r Gweithlu – Workforce Development Team
Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd.
Museums, Archives and Libraries Division
Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Department for Economy, Science and Transport
Llywodraeth Cynulliad Cymru - Welsh Government
Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UR
Ffon/Tel: 0300 062 2458
[log in to unmask]
 
 
 
Sganiwyd y neges hon am bob feirws hysbys wrth iddi adael Llywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd o ddifrif yr angen i ddiogelu eich data. Os cysylltwch â Llywodraeth Cymru, mae ein hysbysiad preifatrwydd yn esbonio sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth a sut rydym yn diogelu eich preifatrwydd. Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn anfon ateb yn Gymraeg i ohebiaeth a dderbynnir yn Gymraeg ac ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi. On leaving the Welsh Government this email was scanned for all known viruses. The Welsh Government takes the protection of your data seriously. If you contact the Welsh Government then our Privacy Notice explains how we use your information and the ways in which we protect your privacy. We welcome receiving correspondence in Welsh. Any correspondence received in Welsh will be answered in Welsh and corresponding in Welsh will not lead to a delay in responding.


To unsubscribe from the MUSEUMS-INFO list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=MUSEUMS-INFO&A=1