Print

Print


Gyda diolch o galon i Myrddin am yr awgrymiadau isod. A diolch i Claire am awgrymu ei holi! 


Dyma rannu'r awgrymiadau yma iddyn nhw gael ymddangos fel rhan o'r edefyn yn yr archif: 

Pot ale – gweddillion ydi o ar ôl y broses gyntaf ynde.  Gwaddod breci – dyna sy’n ei gyfleu ella
Draff – soeg ydi hwn yn y broses gwneud cwrw
Lees – gwaddod distyllu ydi hwn o bosib?

Gwenlli 


-----Original Message-----
From: Gwenlli Haf <[log in to unmask]> 
Sent: 28 November 2018 10:38
Subject: Re: Pot Ale

Diolch Claire - syniad gwych! Roeddwn i'n ddigon ffodus i fod yno i glywed ei sgwrs, athrylith yn ei faes (wel, meysydd!). 
Syniad da iawn, dwi am ei holi. 

Gwenlli 



Byddai Myrddin ap Dafydd yn gwybod, efallai.  Rhoddodd sgwrs gyda'r teitl 'Geiriadur y Bragwr a’r Bardd' i Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru y llynedd. 
 
Claire 
 
-----Original Message----- 
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Gwenlli Haf 
Sent: 28 November 2018 10:11 
To: [log in to unmask] 
Subject: Re: Pot Ale 
 
Aha! Diolch Brenda.  
Roeddwn i wedi chwilio 'pot', 'ale' (a 'potale', a dweud y gwir!) - pam na feddyliais i am yr heiffen? 
 
Y peth sy'n cymhlethu'r mater yw bod angen gwahaniaethua rhwng *lees*, *pot ale* a *draff*. Gwaddod faswn i'n galw'r cwbl lot yn Gymraeg! 
 
Mae GPC a GyrA yn rhoi sawl opsiwn, gyda pheth gorgyffwrdd o ran y termau Cymraeg. 
 
O dan 'soeg' yn GPC, gallaf roi dau mewn parau yn eithaf clir:  
 
gwaddod(ion)= draff 
gweddill(ion) = lees  
 
Tybed felly a yw 'soeg(ion)' neu 'gweisgion' yn o lew o agos ati ar gyfer 'pot ale'? Gellid hefyd ystyried 'gwehilion', 'gwaelodion', 'sorod'.  
Dwi'n meddwl gallai 'soeg' weithio, ond byddai'n dda iawn gen i gael barn eraill y cylch. Rhaid ystyried 'pot ale suryp' hefyd. Surop soegion?  
 
 
Ond, efallai:  
gwaddodion = draff, 
gwaelodion = lees, 
gweddillion = pot ale 
fel triawd llyfnach?  
 
Mae fy mhen i'n troi efo'r cwbl erbyn hyn! (ac nid effaith gwirod sydd ar fai, wir yr!) Gyda diolch 
 
Gwenlli  
 
######################################################################## 
 


---
This email has been checked for viruses by Avast antivirus software.
https://www.avast.com/antivirus

########################################################################

To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1