Print

Print

Diolch Claire.  Roeddwn i wedi rhyw obeithio osgoi defnyddio 'strwythuredig'.  Roeddwn i'n meddwl bod y dffiniad o'r gair 'adeiledd': 'y ffordd y mae pethau wedi'u gosod at ei gilydd, gan gynnwys trefn y rhannau a'r berthynas rhyngddynt' yn ddi-fai wrth ymdrin â iaith ond, wedyn, erioed wedi'i weld yn cael ei ddefnyddio yn y cyswllt yma nac yn gallu dod o hyd i unrhyw enghraifft.  Felly ddim yn siŵr o'm petha.

On Thu, Nov 8, 2018 at 12:51 PM Claire Richards <[log in to unmask]> wrote:

Ym maes addysg mae ‘strwythuredig’ wedi hen ennill ei blwyf.

Er enghraifft, dyna a geir ym manylebau CBAC ac yn y Termiadur Addysg (ar y Porth Termau).

Claire

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Eluned Mai
Sent: 08 November 2018 12:42
To: [log in to unmask]
Subject: structured

A oes modd defnyddio'r term 'adeileddol' yng ngyd-destun iaith?  Y cyd-destun yw:

'...a more formal and structured introduction to Ancient Greek'

Gyda diolch

Eluned

To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1