Print

Print


Neges ddwyieithog yw hon - Gweler isod ar gyfer y fersiwn Saesneg / This is a bilingual message - Please see below for English version

Ailwampio eich arddangosfa heb dalu gormod
Amgueddfa Sir Gaerfyrddin - Rhagfyr 4 2018
Amgueddfa Dinbych - Rhagfyr 12 2018

Mae'r cwrs hwn yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru. Mae'n agored i staff a gwirfoddolwyr sy'n gweithio mewn amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd yng Nghymru.


Nod
Cynnig diwrnod hwyliog ac ymarferol i bobl sy'n gweithio mewn amgueddfeydd er mwyn eu helpu i edrych ar ffyrdd i ailwampio ac adnewyddu eu arddangosiadau am y nesaf peth i ddim..

Amcanion ar gyfer y diwrnod:

*       Byddwch yn edrych ar ffyrdd i nodi pam bod angen ailwampio eich amgueddfa ynghyd â syniadau ar sut i wneud hynny gyda chyllideb fach iawn neu dim gyllideb o gwbl..
*       Byddwch yn dysgu sut i ddiweddaru dehongliadau ac ysgrifennu a chreu labeli a phaneli effeithiol sy'n cynnwys lluniau a thestun.
*       Byddwch yn darganfod yr egwyddorion sylfaenol i'w dilyn ym maes cadwraeth wrth greu arddangosfa a throsolwg o ba ddeunyddiau y gellir eu defnyddio'n ddiogel mewn arddangosfeydd, a'r dulliau priodol i'w defnyddio ar gyfer mowntio a dal gwrthrychau.
*       Bydd y sesiynau ymarferol yn cynnwys defnyddio orielau'r amgueddfa sy'n cynnal y sesiwn i nodi meysydd sydd angen eu hadnewyddu ac yna'n llunio cynllun gweithredu, gan ddysgu sut i wneud mowntiau yn rhad.

Mae'r diwrnod hwn yn addas i'r canlynol:
Gwirfoddolwyr a staff cyflogedig sy'n gyfrifol am unrhyw fath o gasgliad amgueddfa sy'n dymuno adnewyddu eu arddangosiadau. Rhoddir pwyslais ar agweddau ymarferol ac arbed arian.
Ni dderbynnir mwy nag 20 o gynrychiolwyr.

Caiff yr hyfforddiant ei arwain gan:
Vicky Dawson - Mae Vicky yn guradur amgueddfeydd llawrydd sydd wedi bod yn gweithio ar ei phen ei hun mewn amgueddfeydd heb gyllideb, felly mae wedi hen arfer â rheoli a hynny am y nesaf peth i ddim, o ran arian, sgiliau a deunyddiau. Yn fwy diweddar mae wedi datblygu sawl arddangosfa deithiol fawr yn y de-orllewin ac ysgrifennu'r sgript ar eu cyfer, ac mae ar hyn o bryd yn Gynghorydd Technegol Achredu ar gyfer y rhanbarth, gan ddarparu hyfforddiant ar amrywiaeth o bynciau.


Datganiad o ddiddordeb

I fynegi eich diddordeb yn y cwrs yma llenwch y ffurflen amgaeedig a'i dychwelyd i [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>



Ceisiadau yn cael eu cyfyngu i 2 y sefydliad, fodd bynnag, rydym yn hapus i roi unrhyw geisiadau eraill ar restr aros rhag ofn na fydd y cwrs yn llawn. Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais, cewch neges a gynhyrchir yn awtomatig i gadarnhau bod eich cais wedi ei dderbyn. Nodwch nad yw eich lle yn warantedig hyd nes y byddwch yn derbyn gwahoddiad i'r cwrs gan MALD.


Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Os bydd eich amgylchiadau'n newid ac na fyddwch yn gallu mynd ar y cwrs wedi'r cyfan, cysylltwch â Charlie Kingsbury ar unwaith drwy e-bostio [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]> neu ffoniwch 0300 062 2050 er mwyn i rywun arall ar y rhestr aros allu mynd yn eich lle.

Ni fyddwn bellach yn darparu cinio ar gyfer digwyddiadau hyfforddi er mwyn i ni allu cynnal amrywiaeth mor eang â phosibl o gyfleoedd hyfforddi. Serch hynny, byddwn yn parhau i gynnig te a choffi wrth i chi gyrraedd ac yn ystod egwyliau. Byddwn hefyd yn darparu gwybodaeth am y darparwyr bwyd lleol sydd gerllaw lleoliad yr hyfforddiant.

Bydd pob gohebiaeth sy'n ymwneud â'r cwrs hwn yn cael ei hanfon atoch yn electronig ar ôl ichi gofrestru; felly, gofynnwn am gyfeiriad e-bost unigol ar gyfer pob cynrychiolydd.

[X]

Revamping your exhibition on a Shoestring
Carmarthenshire County Museum - December 4th 2018
Denbigh Museum - December 12th 2018

This course is provided by the Welsh Government.  It is open to staff and volunteers working in museums, archives and libraries in Wales.

Aim

To offer museums a fun and practical day to explore ways to revamp and refresh their displays with little or no budget

Objectives for the day:

*       You will explore ways to identify why your museum needs a revamp and ideas to do it on a shoestring budget
*       You will learn how to update interpretation and write  and create labels, and effective graphic and text panels
*       You will learn the basic conservation principles to follow when mounting a display and  have an overview of what materials can be safely used in displays and of appropriate methods of mounting and supporting objects
*       Practical sessions will include using the galleries of the host museum to identify areas in need of a refresh and then drawing up a plan of action and learning how to make low cost mounts.
This day is recommended for:
Volunteers and paid staff with responsibility for any sort of museum collection who would like to refresh their displays, with an emphasis on practicality and economy.
Max. 20 delegates


The training will be led by:
Vicky Dawson is a freelance museum curator who has operated as a one man band in museums with no budgets ) and so is well used to managing on a shoestring, in terms of cash, skills and materials. More recently she has developed and written the script for several major touring exhibitions in the South West and is currently Accreditation Technical Adviser for the region, delivering training on a range of subjects.

Expression of interest

Please express your interest in this course by completing the attached form and returning it to [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>



Requests are limited to 2 per organisation however we are happy to waitlist any others in the event the course is not fully subscribed. Once you have submitted your request your will receive an automatically generated message to confirm that your request has been received. Please note your place is not guaranteed until you receive an invitation to the course from MALD.

Spaces are limited. If your circumstances subsequently change and you can no longer attend notify Charlie Kingsbury immediately on [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>  or 0300 062 2050 so your place can be awarded to someone on the waitlist.

In order to maintain as wide a range of training opportunities as possible MALD will no longer provide lunch for training events. We will continue to provide tea and coffee on arrival and during breaks. We will also provide information on available food providers located conveniently near the venue.

All correspondence relating to this course will be sent out electronically once you have registered; therefore you must supply an individual email address for each delegate.


Seáneen McGrogan
Swyddog Casgliadau, Safonau a hyfforddiant
Collections, Standards and Training Officer
Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd.
Museums, Archives and Libraries Division
Department for Economy, Science and Transport
Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Llywodraeth Cymru / Welsh Government
Rhodfa Padarn, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UR
0300 062 2261


Wrth adael Llywodraeth Cymru sganiwyd y neges yma am bob feirws. Mae Llywodraeth Cymru yn diogelu eich data o ddifrif. Os cysylltwch â Llywodraeth Cymru Mae ein hysbysiad preifatrwydd esbonio<https://gov.wales/about/welsh-government-privacy-notice/?lang=cy> sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth a ffyrdd yr ydym yn diogelu eich preifatrwydd. Rydym yn croesawu derbyn gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ateb gohebiaeth a dderbynnir yn Gymraeg yn Gymraeg ac ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi. On leaving the Welsh Government this email was scanned for all known viruses. The Welsh Government takes the protection of your data seriously. If you contact the Welsh Government then our Privacy Notice<https://gov.wales/about/welsh-government-privacy-notice/?lang=en> explains how we use your information and the ways in which we protect your privacy. We welcome receiving correspondence in Welsh. Any correspondence received in Welsh will be answered in Welsh and corresponding in Welsh will not lead to a delay in responding.

########################################################################

To unsubscribe from the MUSEUMS-INFO list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=MUSEUMS-INFO&A=1