Print

Print

Dwi'n rhyw feddwl bod llawer o bobl ym myd addysg yn defnyddio 'celf', felly mae'n bosib iawn mai 'ffiw' fydd hi. 

On Sun, Oct 21, 2018 at 11:41 AM anna gruffydd <[log in to unmask]> wrote:
Mae fy nghwsmer i'n mynd ii holi siaradwyr Cymraeg yn y gweithle. Os bydd eu hmateb nhw'n ffafriol, ella rhown ni gynnig arni a gweld be fydd ymateb y gymuned addysg a'r celf****au(!). Ai 'ysywaeth, gwae fi ac ochon' ynteu 'ffiw, diolch byth am gael gair byrrach mwy brathog. Mi fasa'n arbrawf eitha diddorol.

A
Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!

Il giorno dom 21 ott 2018 alle ore 12:26 Eluned Mai <[log in to unmask]> ha scritto:
Iawn, hogan!  O ran hyd y gair, rwyt ti'n llygad dy le.  Paid â  phoeni - ddim yn deall y 'berwi' chwaith.

On Sat, Oct 20, 2018 at 7:29 PM anna gruffydd <[log in to unmask]> wrote:
Sori, ddaru mi chwerthin ei hochor hi - ma rwbath  "sydd wedi cymryd amser maith i'w wneud yn haeddu gair go lew i'w ddisgrifio"!! Felly mae "cerdd" neu ca^n" yn ddisgrifiad eitha tila??? Tynnu dy goes di dwi rwan, ond yn dal i feddwl dy fod yn berwi!

Anna
Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!

Il giorno sab 20 ott 2018 alle ore 20:06 Eluned Mai <[log in to unmask]> ha scritto:
Wn 'im, ella dydy 'celf' ddim yn gweithio cystal bob tro, e.e. creadigaethau celf/creadigaethau celfyddydol.  Ella bod gwaith sydd wedi cymryd amser maith i'w wneud yn haeddu gair go lew i'w ddisgrifio.  Sawl ochr i'r ddadl siwr o fod.  

On Sat, Oct 20, 2018 at 5:53 PM anna gruffydd <[log in to unmask]> wrote:
Diolch am ymatab call a synhwyrol. On i jyst yn lecio'r gair celfau yn hytrach na'r hen celfyddydau clogyrnaidd - gweld dy ddadl di ynghylch yr ansoddair - ond, wedi deud hynny, mi all celf fod yn ansoddeiriol, dwi byth yn defnyddio'r gair celfyddydol.

Anna
Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!

Il giorno sab 20 ott 2018 alle ore 18:46 Eluned Mai <[log in to unmask]> ha scritto:
Mae 'na gnawas fan hyn sydd ddim yn cytuno.  Fy marn i ydy: dydy 'celfau' ddim yn swnio'n iawn. O 'celfydd' mae 'celfyddyd' yn dod felly fedri di ddim gwneud llawer efo'r gair 'celf' achos dydy o ddim yn air cyflawn.  Be wyt ti'n mynd i'w roi am 'celfyddydol'?  Cofia di, dwi yn cydymdeimlo efo'r diffyg lle - os nad oes dewis arall oherwydd diffyg lle wrth drydar, efallai byddai'n well defnyddio 'celf' ar ei ben ei hun i gyfleu'r lluosog, heb yr 'au', os yw'n bosib.  Ddaru'r cnafon ddim rhagweld y byddai Trydar yn bod wrth fathu'r gair 'celfyddyd'. 😕  
Pob lwc!

On Fri, Oct 19, 2018 at 1:49 PM anna gruffydd <[log in to unmask]> wrote:
Dew, diolch, was!

Anna
Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!

Il giorno ven 19 ott 2018 alle ore 14:47 Jeff Williams-Jones <[log in to unmask]> ha scritto:
Dos amdani!

Jeff

Jeff Williams-Jones
mana
Plas Paradwys
Bodorgan
LL62 5PE

07966 256565

To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1

To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1

On 19 Oct 2018, at 13:11, anna gruffydd <[log in to unmask]> wrote:

Breuddwyd gwrach ar bnawn Gwener. Cyfieithu petha ar gyfer Trydar sy di ysgogi'r syniad yma. A bwrw bod y gwahaniaeth (o ran llythrenna) rhwng arts a celfyddydau mor fawr ac yn creu problema Trydar, oni fasa hi'n braf dilyn patrwm 'celf' = 'art' (er nad ydi'n dderbyniol gan bawb, mae wedi hen ennill ei blwy). Gan hynny arts = celfau. Nid ystyriaethau Trydar yn unig sy'n gneud i mi feddwl hyn (duw a'n gwareddo!). Mae'n llai clogyrnaidd ac yn haws ei ddeud. Meddyliwch cymaint mwy bachog fyddai deud 'Cyngor Celfau Cymru', 'celfau cymuned' 'cyrsiau yn y celfau' a hepgor yr 'yddyd' na yn y canol. Fasa'n dda gin i wbod be di'ch barn chi yn hyn o beth - dwi wedi penderfynu, mwy neu lai, arloesi hynnny'r tro nesa bydd gofyn i mi gyfieithu rhywbeth ar gyfer Trydar.