'shares' mewn cwmni etc yw'r rhain?
Achos 'cyfrannau' yw'r rheiny fel rheol.
O ran y treiglo, mae gan Arddulliadur y Llywodraeth nodyn da o dan y pennawd Treiglo:
cyfres o enwau
Uned Bolisi, ond Uned Polisi Cymdeithasol, hynny yw, ar ôl enw benywaidd, mae angen treiglo’r gair sy'n dilyn, ond os oes dau neu ragor o eiriau'n dilyn, a'r cysylltiad rhwng y geiriau hynny a'i gilydd yn gryfach na'r cysylltiad â'r enw benywaidd, does dim treiglad.
Felly, yr Adran Ddiwydiant ond yr Adran Diwydiant a Masnach.
Yr Uned Bolisi, ond yr Uned Polisi Cydraddoldeb.
Cwmni DB Cyf
62 Waterloo Road, Pen-y-lan, Caerdydd CF23 9BH
(029) 20486677 neu 07758358236
Cofrestrwyd yng Nghymru: 04990174
On 15 September 2018 at 12:26 Brenda Jones <[log in to unmask]> wrote:
Helo
Mae fy mhen i’n troi efo problem sylfaenol braidd:
Uned Gyfraniadau Cymunedol ‘ta Uned Cyfraniadau Cymunedol ?
To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1