Bore da bawb! Diolch yn fawr i bawb wnaeth fynychu ein cyfarfod grŵp ddydd Gwener. Bydd cofnodion a phwyntiau gweithredu'r cyfarfod hwn ar gael cyn bo hir. Fel y trafodwyd, bydd cyfnod Dewi fel Is-gadeirydd Partneriaethau a Materion Allanol yn dod i ben mis yma. Mae'r rôl yn un pwysig o fewn ein Grŵp,
ac mae'n bwysig i ni ethol rhywun i barhau gyda'r gwaith y mae Dewi wedi'i wneud.
A wnewch chi felly ystyried y neges hon fel cais ffurfiol am enwebiadau. Mae ffurflen enwebu wedi'i hatodi. Mae cyfle i ychwanegu datganiad cefnogol fydd yn cael ei rannu gydag aelodau'r Grŵp. Ni ddylech ysgrifennu mwy nag un tudalen
A4. Mae'n rhaid cynnwys enwau dau aelod HELOA sydd yn eich enwebu. Mae'r aelodau hyn naill ai'n gallu arwyddo'r ffurflen, neu gallwch anfon ebost ataf oddi wrthynt, sy'n cadarnhau eu bod yn hapus i'ch enwebu. Mae'n rhaid anfon eich ffurflen ataf
erbyn 5pm ar Ddydd Llun 8 Hydref, sef pythefnos o heddi. Ni fydd modd derbyn ffurflenni hwyr. Gallwch anfon y ffurflen ataf ar ebost neu drwy'r post. Byddwn yn annog unrhywun sydd â diddordeb i siarad â Dewi neu unrhyw aelod arall pwyllgor y Grŵp am fanteision bod yn rhan o waith HELOA. Gobeitiwn y byddwch
yn ei weld fel profiad gwerthfawr, sydd hefyd yn edrych yn dda ar CV. Hoffem gymryd y cyfle i ddiolch i Dewi am ei holl waith dros y 3 blynedd diwetha'. Diolch yn fawr. Alex |
Good morning all! Many thanks to those of you who attended the group meeting on Friday. Minutes and actions will be available shortly. As discussed, Dewi’s term as Vice-chair Partnerships and External Relations comes to an end this month. This role is an important one within our Group, and it
is therefore important that we elect a successor to ensure that Dewi's work will continue.
Please therefore consider this email as a formal request for nominations. We'd also like to take this opportunity to thank Dewi for all the work he's done over the past 3 years. Many thanks. Alex |
To unsubscribe from the HELOAWALES list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=HELOAWALES&A=1