Print

Print

Cei di brynu diod imi y tro nesa y gwela i di. 

Claire

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 31 August 2018 13:45
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Polite notice

Diolch o galon eto. Eitemau mislif amdani ta. Faint o gomisiwn ti'n ei godi?!

Anna

Ye who opt for cut'n'paste

Tread with care and not in haste!

2018-08-31 13:13 GMT+02:00 Claire Richards <[log in to unmask]>:

Dwi ddim mor sicr ydi pobl yn gwybod, chwaith.  Rydyn ni newydd gyfieithu arwydd sy’n gofyn i bobl roi papur tŷ bach yn y toiled, nid yn y bin! A does dim ond angen darllen storïau newyddion, fel yr un am Fatberg Llundain, i ddysgu am y pethau mae pobl yn eu fflysio yn lle eu binio.

Roedd ‘sanitary towels’ hefyd yn codi yn y cyfieithiad wnaethon ni, a rhoesom ni ‘eitemau mislif’ (er mwyn cynnwys y cwbl, ynte).  Mae’r Porth Termau’n rhoi ‘darpariaeth mislif’ am ‘sanitary protection’.

Claire

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 31 August 2018 11:57
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Polite notice

Wedi cael gwbod be di 'sanitary bins' -  Female hygiene waste (tampons etc) Mi ddychrynais i ddechra o feddwl bod y rhain yn y gegin ond ma siwr mai arwydd arall, ar gyfer y tai bach, ydi hwn! Oes angen y gair sanitary o gwbwl? dan ni i gyd wedi hen arfer a biniau mewn tai bach ac yn gwbod i be maen nhw'n dda.

Anna

Ye who opt for cut'n'paste

Tread with care and not in haste!

2018-08-31 12:47 GMT+02:00 Claire Richards <[log in to unmask]>:

Mae ‘Diolch i chi’ yn fwy cydnaws â’r ‘Os gwelwch yn dda...’ ar y dechrau.

Claire

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 31 August 2018 11:42
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Polite notice

On i'n meddwl mai dyna oedd y tarddiad hefyd. Diolch - on i eisoes wedi penderfynu dilyn fy ngreddf, jyst isio cadarnhad! Ar yr un arwydd - thank you for your co-operation - swnio'n affwysol o ffurfiol a hirwyntog yn Gymraeg. Dwi'n ystyried 'diolch am eich cymwynas', neu ddim ond 'diolch i chi'. Be ti'n feddwl?

Anna

Ye who opt for cut'n'paste

Tread with care and not in haste!

2018-08-31 12:35 GMT+02:00 Claire Richards <[log in to unmask]>:

Byddwn innau’n rhoi ‘Os gwelwch yn dda...’

Mae trafodaethau di-ri ar y we ynghylch tarddiad yr ymadrodd ‘Polite Notice’. Mae llawer yn credu mai arwyddion ynghylch parcio oedd y rhai cyntaf, a’r rheiny’n dibynnu ar y tebygrwydd rhwng ‘Polite Notice’ a ‘Police Notice’ i geisio codi ofn ar bobl fel na fyddan nhw’n parcio mewn man penodol.

Mae eraill yn nodi natur ‘passive aggressive’ (nodweddiadol Brydeinig?) y pennawd ‘Polite Notice’ ac wedyn ribidirês o orchymynion.

Claire

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 31 August 2018 11:23
To: [log in to unmask]
Subject: Polite notice

Dwi'n gwbod be ydi o, wrth gwrs, ond y ffordd orau i'w gyfieithu...? Mewn cegin mae o - rhestr o amryfal betha ma gofyn i'r defnyddwyr eu gwneud neu beidio a'u gwneud. Fy ngreddf i ydi cefnu ar yr ystyr llythrennol yn gyfan gwbl a deud 'Os gwelwch yn dda...'  wedyn y rhestr o betha sy'n dilyn, e.e. cadwch y gegin yn dwt etc etc.

Be dach hi'n feddwl, frodyr a chwiorydd?

Anna

To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1