Yn reddfol, dw i'n meddwl y byddwn i wedi cyfieithu'r darn yn fy ngeiriau fy hun ac anwybyddu'r copi oedd wedi'i gyfieithu'n barod. Ond mae'n debyg nad oes ateb cywir yn y sefyllfa yma - darn prawf od iawn i'w osod ddeudwn i!

Sian

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]> on behalf of Ann Corkett <[log in to unmask]>
Sent: 19 July 2018 12:36
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Cael cam am waith da?
 
Wedi meddwl ymhellach, os bydd rhywun arall *wedi* cael y swydd, wnewch
chi ddim ennill dim trwy wneud stwr, a bydd yn anos ceisio gwaith gan yr
un cwmni eto. Gwell, efallai, cadw'n dawel a derbyn ein cydymdeimlad.
Ond beth fyddai pobl eraill wedi'i wneud?

Ann


On 18/07/2018 20:43, Aled Powell wrote:
> Wel gyfeillion, cefais brofiad annymunol heddiw.
>
> Es i am gyfweliad swydd cyfieithydd a rhoddwyd dau ddarn i mi eu
> cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg. (Copïau papur yn unig a heb
> Cysgliad na hyd yn oed bysellfwrdd estynedig i fedru teipio acennau ar
> beiriant gyda Windows ac Office yn Saesneg.)
>
> Nes i nabod yr ail ddarn fel rhan o swydd ddisgrifiad y swydd roeddwn
> yn cael fy mhrofi ar ei chyfer ac yn naturiol roedd gennyf felly gopi
> papur Cymraeg a Saesneg o'r union ddogfen yn fy meddiant. Wrth gwrs,
> roeddwn hefyd yn gwybod ym mhle i gael copi ffurf ddigidol. Es at
> wefan y cyflogwr a'i lawrlwytho cyn copïo a phastio'r rhan berthnasol
> a chadw'r ddogfen gorffenedig.
>
> Wedi i'r amser ar gyfer y tasgau dod i ben, symudais ymlaen i'r
> cyfweliad ei hun tra roedd fy narnau cyfieithu yn mynd i gael eu
> hasesu gan y cyfieithydd a oedd yn gadael ei swydd. Gan mai di-gymraeg
> oedd dau o'r tri phanelwyr, cynhaliwyd y cyfweliad yn Saesneg.
>
> Manteisiais ar y cyfle cyntaf i esbonio fy mod wedi adnabod un o'r
> darnau cyfieithu ac, fel y buaswn yn fy ngwaith fel cyfieithydd, wedi
> dod o hyd i fersiwn Cymraeg a oedd yn union gyfieithiad ac wedi
> defnyddio hwnnw yn hytrach nag ailadrodd gwaith yn ddiangen.
>
> Ni chefais y swydd a chefais wybod bod y penderfyniad yn rhannol am
> fod rhai ar y panel yn anfodlon nad oeddwn wedi mynd ati i gyfieithu'r
> ail ddarn fy hun.
>
> Ai fi sydd wir ar fai?
>
> Mae'n rhaid bod pob ymgeisydd arall hefyd wedi adnabod y swydd
> ddisgrifiad ac mae'n rhesymol tybio eu bod nhw, fel fi, gyda chopi o'r
> ddogfen ar eu meddiant yn y ddwy iaith. Anodd credu nad ydyn nhw hefyd
> wedi manteisio ar hynny i ryw raddau o leiaf wrth gwblhau'r dasg. Ond
> eu bod nhw wedi cadw'n dawel am y peth?!
>
> Aled
>
> ########################################################################
>
> To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following
> link:
> https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
>

--
5 Heol Belmont
BANGOR
Gwynedd
LL57 2HS
(01248) 371987
[log in to unmask]

########################################################################

To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1


To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1