Yn reddfol, dw i'n meddwl y byddwn i wedi cyfieithu'r darn yn fy ngeiriau fy hun ac anwybyddu'r copi oedd wedi'i gyfieithu'n barod. Ond mae'n debyg nad oes ateb cywir yn y sefyllfa yma - darn prawf od iawn i'w osod ddeudwn i! Sian ________________________________ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]> on behalf of Ann Corkett <[log in to unmask]> Sent: 19 July 2018 12:36 To: [log in to unmask] Subject: Re: Cael cam am waith da? Wedi meddwl ymhellach, os bydd rhywun arall *wedi* cael y swydd, wnewch chi ddim ennill dim trwy wneud stwr, a bydd yn anos ceisio gwaith gan yr un cwmni eto. Gwell, efallai, cadw'n dawel a derbyn ein cydymdeimlad. Ond beth fyddai pobl eraill wedi'i wneud? Ann On 18/07/2018 20:43, Aled Powell wrote: > Wel gyfeillion, cefais brofiad annymunol heddiw. > > Es i am gyfweliad swydd cyfieithydd a rhoddwyd dau ddarn i mi eu > cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg. (Copïau papur yn unig a heb > Cysgliad na hyd yn oed bysellfwrdd estynedig i fedru teipio acennau ar > beiriant gyda Windows ac Office yn Saesneg.) > > Nes i nabod yr ail ddarn fel rhan o swydd ddisgrifiad y swydd roeddwn > yn cael fy mhrofi ar ei chyfer ac yn naturiol roedd gennyf felly gopi > papur Cymraeg a Saesneg o'r union ddogfen yn fy meddiant. Wrth gwrs, > roeddwn hefyd yn gwybod ym mhle i gael copi ffurf ddigidol. Es at > wefan y cyflogwr a'i lawrlwytho cyn copïo a phastio'r rhan berthnasol > a chadw'r ddogfen gorffenedig. > > Wedi i'r amser ar gyfer y tasgau dod i ben, symudais ymlaen i'r > cyfweliad ei hun tra roedd fy narnau cyfieithu yn mynd i gael eu > hasesu gan y cyfieithydd a oedd yn gadael ei swydd. Gan mai di-gymraeg > oedd dau o'r tri phanelwyr, cynhaliwyd y cyfweliad yn Saesneg. > > Manteisiais ar y cyfle cyntaf i esbonio fy mod wedi adnabod un o'r > darnau cyfieithu ac, fel y buaswn yn fy ngwaith fel cyfieithydd, wedi > dod o hyd i fersiwn Cymraeg a oedd yn union gyfieithiad ac wedi > defnyddio hwnnw yn hytrach nag ailadrodd gwaith yn ddiangen. > > Ni chefais y swydd a chefais wybod bod y penderfyniad yn rhannol am > fod rhai ar y panel yn anfodlon nad oeddwn wedi mynd ati i gyfieithu'r > ail ddarn fy hun. > > Ai fi sydd wir ar fai? > > Mae'n rhaid bod pob ymgeisydd arall hefyd wedi adnabod y swydd > ddisgrifiad ac mae'n rhesymol tybio eu bod nhw, fel fi, gyda chopi o'r > ddogfen ar eu meddiant yn y ddwy iaith. Anodd credu nad ydyn nhw hefyd > wedi manteisio ar hynny i ryw raddau o leiaf wrth gwblhau'r dasg. Ond > eu bod nhw wedi cadw'n dawel am y peth?! > > Aled > > ######################################################################## > > To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following > link: > https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1 > -- 5 Heol Belmont BANGOR Gwynedd LL57 2HS (01248) 371987 [log in to unmask] ######################################################################## To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link: https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1 ######################################################################## To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link: https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1