Print

Print


Mae'n debyg bod nofel o'r fath yn realistig oherwydd yr ymdriniaeth fanwl o'r 'procedures' ond dwi'n teimlo mai'r 'procedures' yw'r gair allweddol ac y dylwn i ddod o hyd i derm sy'n ymwneud â hynny.  Eto, ddim yn siŵr be'.  Da fasa dod o hyd i nofelau Cymraeg o'r fath - efallai y basai'n haws meddwl am derm wedyn. 😊 Bydd yn rhaid dewis rhywbeth am y tro, dwi'n meddwl, gan fod ei angen erbyn diwedd bore fory ac wedyn siarad â'r cwsmer maes o law, gan nad yw hi ar gael ar y funud. 

Dwi'n deall y busnes wy caled yn well rwan ond dal heb feddwl am air addas.

Cymysgedd o'r ddau ydy'r gynulleidfa, Sian - aelodau o'r cyhoedd sy'n astudio nofelau ditectif ond dim ond am gyfnod byr; mwy oherwydd diddordeb na gwneud astudiaeth fanwl.  Ar ben hynny, trwy gyfrwng y Saesneg y bydd y cwrs ond mae'n bwysig bod y rhai sy'n dewis darllen yr wybodaeth amdano trwy gyfrwng y Gymraeg yn cael syniad go dda o'r hyn sy'n cael ei gynnig.

Diolch eto!

Am y tro

Eluned




2018-07-11 18:01 GMT+01:00 Sian Roberts <[log in to unmask]>:
Diolch Eluned

Y diffiniad yn oxforddictionaries.com wnaeth roi’r syniad o “realistig” i mi. Dwi’m yn siŵr a fyswn i’n deall “trefniadol” - ond mae hwnnw’n nes at y Saesneg.  Mae’n dibynnu pwy yw’r gynulleidfa, siŵr o fod - y cyhoedd ‘ta pobl sy’n astudio nofelau ditectif.

"Denoting a television series, film, or novel characterized by detailed, realistic treatment of professional procedures, especially police procedures.

Siân

On 11 Jul 2018, at 17:14, Eluned Mai <[log in to unmask]> wrote:

Diolch Sian!

Dwi'n meddwl bod y 'cosies' yn tueddu i fod yn ysgafn.  Dyma ddiffiniad o'r nofelau 'cosy':

'What's cozy about these books is usually the setting. The murder takes place in an intimate environment, such as a small town, a neighborhood, or an all-girls private school. With the exception of the fact that somebody has been bumped off, the cozy tends to be light in tone; that is, it is crafted so as not to offend delicate sensibilities. So while the subject matter can include all manner of transgression, the actual doings (such as murder, other violence, kinky sex, etc.) are not described in graphic detail.'

Dyma ddiffiniad o'r nofelau 'procedural' hefyd:

'A procedural mystery has as its key factor a blow-by-blow, thoroughly researched and specifically described analysis of how the crime is solved, by whatever means is the specialty of the main character. It may be authentically-researched detective legwork (as in a police procedural, such as in the novels of Joseph Wambaugh) or a scientific investigation of the evidence (such as in Patricia Cornwell's books featuring the medical examiner Kay Scarpetta or Kathy Reichs' series with forensic anthropologist Temperance Brennan).' 

Fyddai 'trefniadol' yn iawn, os nad oes dim ar gael yn barod?

2018-07-11 16:09 GMT+01:00 Sian Roberts <00001af504e5bed1-dmarc-[log in to unmask]>:
Rhywbeth fel “ysgafn, realistig, tywyll” efallai?

Siân

On 11 Jul 2018, at 15:50, Dafydd Frayling <[log in to unmask]> wrote:

Yn yr 80au defnyddid y term ‘wy caled’ i olygu rhywun a fyddai’n barod i dorri’r gyfraith yn ddifrifol ym mrwydr yr iaith.
 
Dafydd Frayling
Cyfieithydd
Ffôn: 029 2044 1313
<image001.jpg>
Translator
Tel: 029 2044 1313
 Cyngor Celfyddydau Cymru
 Plas Bute, 
Caerdydd CF10 5AL
 www.celf.cymru                               
 Arts Council of Wales
 Bute Place, Cardiff CF10 5AL
 www.arts.wales
<image002.png>
<image003.png>
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg, ni fydd gohebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn arwain at oedi.
We welcome correspondences in Welsh and English, corresponding in Welsh will not lead to a delay.
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:WELSH-TERMAU-CYMRAEG@JISCMAIL.AC.UK] Ar ran/On Behalf Of Eluned Mai
Sent: 11 Gorffennaf 2018 13:49
To: WELSH-TERMAU-CYMRAEG@JISCMAIL.AC.UK
Subject: cosy, procedural or hard-boiled
 
Prynhawn da bawb!
 
Dwi'n chwilio am dermau Cymraeg am 'cosy, procedural or hard-boiled' yng nghyd-destun nofelau ditectif.  Oes unrhyw un yn gwybod am dermau Cymraeg cyfatebol, os gwelwch yn dda?
 
Am y tro
 
Eluned
 

To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1



To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1




To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1




To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1




To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1




To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1