Print

Print

Debyg iawn - yn llygad ei le - ges i ryw 'glitch' bach am mod i mor gyseityd, a meddwl amdano fel ansoddair.

Anna

Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!

2018-07-26 11:15 GMT+02:00 Ann Corkett <[log in to unmask]>:
Diolch, Anna. Gwell gan Bruce “mynd yn gelain” ar gyfer yr unigol.
Ann

Sent from my iPhone

On 26 Jul 2018, at 10:04, Sally Atkinson <[log in to unmask]GOV.UK> wrote:

Cytuno’n llwyr ag Anna – Aeth yn gelanedd J

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:WELSH-TERMAU-CYMRAEG@JISCMAIL.AC.UK] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 26 July 2018 06:20
To: [log in to unmask]AC.UK
Subject: Re: celaneddau + Freedom of Information Compliance Officer

Dyna chdi di taro deuddeg - wedi cael hyd i'r ffordd o gyfieithu 'to corpse' - aeth yn gelanedd! Mi fuo na drafodaeth yma ym mis Chwefror 2013. Geraint Lovgreen gaeodd ben y mwdwl:- " Dwi'n tueddu tuag at 'corpsio' ar hyn o bryd os na chawn ni ateb gwell gan rywun yn y maes." Dwi'n bwrw mhleidlais dros 'mynd yn gelanedd'. Be di barn eraill o'r cylch?

Anna

Ye who opt for cut'n'paste

Tread with care and not in haste!

2018-07-25 23:28 GMT+02:00 Ann Corkett <00000b3c25d9559d-dmarc-[log in to unmask]>:

'Dyn ni newydd gofio'r ymadrodd i ddisgrifio actor sy'n dechrau chwerthin ac yn methu mynd ymlaen a'i linellau - he corpsed!

Ann

On 25/07/2018 17:56, Eluned Mai wrote:

Dwi'n gyfarwydd ag 'yn eu glanna'n chwerthin' hefyd - sydd bur debyg yn gysylltiedig â'r gair 'celain' (corff marw), ll. 'celanedd', gyda'r ystyr 'yn marw'n chwerthin', ynte.  Mi fasa 'overcome' yn gyfieithiad da wedyn, h.y. 'overcome by laughter' neu 'totally overcome' gan fod 'chwerthin' yn ymddangos yn y cymal nesa.

2018-07-25 12:14 GMT+01:00 anna gruffydd <[log in to unmask]>:

Diolch am f'atgoffa o'r sgwrs fach yna!

Anna

Ye who opt for cut'n'paste

Tread with care and not in haste!

2018-07-25 12:58 GMT+02:00 Ann Corkett <00000b3c25d9559d-dmarc-[log in to unmask]>:

O ran diddordeb, 'rwyf wrthi'n cyfieithu adroddiadau papur newydd gan gapeli adeg Diwygiad 1905, ac wedi dod o hyd i'r isod:

"Ni allai neb godi oddiar ei liniau am tua awr a haner, ac nis gallwn yn ein byw feddwl am ddesgrifio yr olygfa. Yr oedd y rhan fwyaf o'r brodyr yn gelaneddau - y fath wylo, ocheneidio, a chwerthin boddhaus, a'r gweddio gorfoleddus!"

Mae'r ystyr bras yn amlwg, ond sut i'w gyfieithu? Tynnodd Bruce gymhariaeth a'r ymadrodd "gl'anna' chwerthin" a daethom i'r casgliad mai "overcome" (efallai'n gorwedd yn ddiymadferth?) fyddai'r cyfieithiad gorau.

Gwelaf fod ychydig o drafodaeth wedi bod rhwng Anna Gruffydd  a Berwyn Prys Jones  dan y pennawd "Freedom of Information Compliance Officer"(!) yn 2003 (isod). Gobeithio y bydd yr uchod yn gyfraniad defnyddiol.

Ann

Byddai 'wherthin dros y lle' a 'wherthin 'i hochor hi' yn bosib hefyd. Fe
gymerais, yn fy anwybodaeth, mai o 'glannau' (bod ysgwyddau dyn wrth
chwerthin yn debyg i ddwy lan afon?) oedd tarddiad 'g'lanna'. Dwi ddim yn
siw^r iawn beth yw'r cysylltiad rhwng 'celanedd' a chwerthin, chwaith, oni
bai bod gweld llond maes brwydr o gelanedd yn gwneud o ogleddwyr chwerthin
...
 
Fe gawn ni 'meal of tongue' am drafod hyn dan 'F of E Comp. Officer'!
 
Berwyn
 
----- Original Message -----
From: "annes" <[log in to unmask]>
To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
Sent: Friday, December 19, 2003 8:34 PM
Subject: Freedom of Information Compliance Officer
 
> Celanedd - oeddwn, Berwyn - be fasat ti'n ddeud - bron marw o chwerthin?
> Dwi'n meddwl mai ni Gogs pia hi yn fama. Ond a bod yn deg ella mai chi
> hwntws pia hi hefo 'meal of tongue'.
> 
> Annes
-- 
5 Heol Belmont
BANGOR
Gwynedd
LL57 2HS
(01248) 371987
[log in to unmask]

To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1

Mae’r Cyngor yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg a Saesneg a byddwn yn cyfathrebu gyda chi yn eich dewis iaith, dim ond i chi rhoi gwybod i ni pa un sydd well gennych. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn creu unrhyw oedi.

The Council welcomes correspondence in Welsh and English and we will communicate with you in the language of your choice, as long as you let us know which you prefer. Corresponding in Welsh will not lead to any delay.

Mae'r neges ebost hon, ynghyd ag unrhyw ffeiliau sydd ynghlwm wrthi, yn gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu sefydliad y cyfeiriwyd hi ato. Pe dderbynioch y neges hon mewn camgymeriad, byddwch mor garedig a rhoi gwybod i'r rheolwr system.
Mae'r nodyn hwn hefyd yn cadarnhau bod y neges ebost hon wedi cael ei archwilio am bresenoldeb feirws cyfrifiadurol.

This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If you have received this e-mail in error please notify the system manager.
This e-mail also confirms that this e-mail message has been swept for the presence of computer viruses.