Print

Print


Ydych chi'n aelod o Gymdeithas y Cyfieithwyr? Ydyn nhw'n medru rhoi 
cyngor ichi (aelod ai peidio?)

Mae gen i ryw gof o gael darn prawf i'w gyfieithu, er mwyn bod ar banel 
oedd ar gael ar gyfer gwaith, a gorfod dweud fy mod i eisoes wedi'i 
gyfieithu fel rhan o'm gwaith, ond 'roedd hynny flynyddoedd yn ol. 'Dw i 
ddim yn meddwl iddo wneud dim drwg imi.

Pob lwc!

Ann


On 18/07/2018 20:43, Aled Powell wrote:
> Wel gyfeillion, cefais brofiad annymunol heddiw.
>
> Es i am gyfweliad swydd cyfieithydd a rhoddwyd dau ddarn i mi eu 
> cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg. (Copïau papur yn unig a heb 
> Cysgliad na hyd yn oed bysellfwrdd estynedig i fedru teipio acennau ar 
> beiriant gyda Windows ac Office yn Saesneg.)
>
> Nes i nabod yr ail ddarn fel rhan o swydd ddisgrifiad y swydd roeddwn 
> yn cael fy mhrofi ar ei chyfer ac yn naturiol roedd gennyf felly gopi 
> papur Cymraeg a Saesneg o'r union ddogfen yn fy meddiant. Wrth gwrs, 
> roeddwn hefyd yn gwybod ym mhle i gael copi ffurf ddigidol. Es at 
> wefan y cyflogwr a'i lawrlwytho cyn copïo a phastio'r rhan berthnasol 
> a chadw'r ddogfen gorffenedig.
>
> Wedi i'r amser ar gyfer y tasgau dod i ben, symudais ymlaen i'r 
> cyfweliad ei hun tra roedd fy narnau cyfieithu yn mynd i gael eu 
> hasesu gan y cyfieithydd a oedd yn gadael ei swydd. Gan mai di-gymraeg 
> oedd dau o'r tri phanelwyr, cynhaliwyd y cyfweliad yn Saesneg.
>
> Manteisiais ar y cyfle cyntaf i esbonio fy mod wedi adnabod un o'r 
> darnau cyfieithu ac, fel y buaswn yn fy ngwaith fel cyfieithydd, wedi 
> dod o hyd i fersiwn Cymraeg a oedd yn union gyfieithiad ac wedi 
> defnyddio hwnnw yn hytrach nag ailadrodd gwaith yn ddiangen.
>
> Ni chefais y swydd a chefais wybod bod y penderfyniad yn rhannol am 
> fod rhai ar y panel yn anfodlon nad oeddwn wedi mynd ati i gyfieithu'r 
> ail ddarn fy hun.
>
> Ai fi sydd wir ar fai?
>
> Mae'n rhaid bod pob ymgeisydd arall hefyd wedi adnabod y swydd 
> ddisgrifiad ac mae'n rhesymol tybio eu bod nhw, fel fi, gyda chopi o'r 
> ddogfen ar eu meddiant yn y ddwy iaith. Anodd credu nad ydyn nhw hefyd 
> wedi manteisio ar hynny i ryw raddau o leiaf wrth gwblhau'r dasg. Ond 
> eu bod nhw wedi cadw'n dawel am y peth?!
>
> Aled
>
> ########################################################################
>
> To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following 
> link:
> https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1 
>

-- 
5 Heol Belmont
BANGOR
Gwynedd
LL57 2HS
(01248) 371987
[log in to unmask]

########################################################################

To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1