'Rwy'n ddigon hen ffasiwn i ddweud "ffotograff" yn hytrach na "ffoto".
Cofwich fod "peintiad" ar gael hefyd.
'Rwy'n gwneud gwaith bob hyn a hyn i gyfaill o ffoto-arlunydd sy'n son am "images", ond fy mod i'n defnyddio "lluniau" yn y Gymraeg. Fyddai'r gair "delwedd" ddim yn fawr o help yng nghyd-destun eich problem, ond mae'n werth cofio ei fodolaeth.
Ann
[log in to unmask]">Fyswn i ddim yn dweud ffoto chwaith.
Oes modd neud rhywbeth efo 'llun' a 'darlun'?
Osian
Ar 23 Gorffennaf 2018 am 16:01, anna gruffydd <[log in to unmask]> ysgrifennodd:
Pol piniwn. Mewn drama - felly nid gwaith technegol - mae arna i angan gwahaniaethu rhwng 'photo' a 'picture/painting'- Faswn i byth yn deud 'ffoto', 'llun' ddeudwn i bob gafal. Oes yna newid arfar di bod? Ydi pobol yn deud 'ffoto' tybad? Decini na dydyn nhw ddim, felly bydd gofyn cael hyd i wrthrych arall i gyfleu'r ffaith na dydi un o'r cymeriada ddim yn dallt ne werthfawrogi'r gwahaniaeth rhwng rwbath o waith camera a rwbath o waith llaw.
Diolch am eich barn.
Anna
To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH- TERMAU-CYMRAEG&A=1
To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1
-- 5 Heol Belmont BANGOR Gwynedd LL57 2HS (01248) 371987 [log in to unmask]
To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1