'Rwy'n ddigon hen ffasiwn i ddweud "ffotograff" yn hytrach na "ffoto". Cofwich fod "peintiad" ar gael hefyd. 'Rwy'n gwneud gwaith bob hyn a hyn i gyfaill o ffoto-arlunydd sy'n son am "images", ond fy mod i'n defnyddio "lluniau" yn y Gymraeg. Fyddai'r gair "delwedd" ddim yn fawr o help yng nghyd-destun eich problem, ond mae'n werth cofio ei fodolaeth. Ann On 23/07/2018 17:11, Osian Rhys wrote: > Fyswn i ddim yn dweud ffoto chwaith. > > Oes modd neud rhywbeth efo 'llun' a 'darlun'? > > Osian > > > > Ar 23 Gorffennaf 2018 am 16:01, anna gruffydd <[log in to unmask] > <mailto:[log in to unmask]>> ysgrifennodd: > > Pol piniwn. Mewn drama - felly nid gwaith technegol - mae arna i > angan gwahaniaethu rhwng 'photo' a 'picture/painting'- Faswn i > byth yn deud 'ffoto', 'llun' ddeudwn i bob gafal. Oes yna newid > arfar di bod? Ydi pobol yn deud 'ffoto' tybad? Decini na dydyn nhw > ddim, felly bydd gofyn cael hyd i wrthrych arall i gyfleu'r ffaith > na dydi un o'r cymeriada ddim yn dallt ne werthfawrogi'r > gwahaniaeth rhwng rwbath o waith camera a rwbath o waith llaw. > > Diolch am eich barn. > > Anna > > > ------------------------------------------------------------------------ > > To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the > following link: > https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1 > <https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1> > > > > > ------------------------------------------------------------------------ > > To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following > link: > https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1 > > -- 5 Heol Belmont BANGOR Gwynedd LL57 2HS (01248) 371987 [log in to unmask] ######################################################################## To unsubscribe from the WELSH-TERMAU-CYMRAEG list, click the following link: https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&A=1