Print

Print


This is a bilingual message - Please see below for English version / Neges ddwyieithog yw hon - Gweler isod ar gyfer y fersiwn Saesneg
 
Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol
Archifau Morgannwg - 16 Awst 2018
Swyddfa Llywodraeth Cymru, Aberystwyth - 17 Awst 2018
 
Bydd yr hyfforddiant hwn yn cael ei roi drwy gyfrwng y Saesneg.
 
Llywodraeth Cymru sy'n darparu'r cwrs hwn, sy'n rhad ac am ddim, ac mae’n cael ei gynnig i staff a gwirfoddolwyr sy'n gweithio yn amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd Cymru. Mae’n addas ar gyfer pobl sydd am ddeall y GDPR a’i oblygiadau i’r sector yn well.
 
Nod
Daeth y GDPR (y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data) yn gyfraith yn y DU ar 25 Mai fel Deddf Diogelu Data 2018 ac mae’n gofyn ichi sicrhau bod gennych y mesurau angenrheidiol ar waith. Mae’r diwrnod hyfforddi cynhwysfawr, arbenigol a rhyngweithiol hwn yn cael ei arwain gan y cyflwynydd arbenigol, Naomi Korn, a fydd yn siarad am y swyddogaethau a’r cyfrifoldebau newydd a sut i’w rhoi ar waith yn llwyddiannus. 
 
Dulliau Hyfforddi
Bydd y cwrs ymarferol hwn yn defnyddio technegau hyfforddi PowerPoint sydd am ddim, yn darparu llawer o daflenni ac yn annog dysgu cyfranogol.
 
Hyfforddwr
Naomi Korn - Sylfaenydd a Phennaeth Naomi Korn Associates ac Ymgynghorydd Arweiniol
Mae Naomi yn un o arbenigwyr blaenllaw y DU ym maes hawlfraint, diogelu data a GDPR, hawliau a thrwyddedau. Mae ganddi brofiad helaeth o fod yn gyflwynydd a hyfforddwr ac mae wedi cynnal cannoedd o weithdai ar gyfer elusennau, sefydliadau addysg, cyrff treftadaeth ddiwylliannol a chyhoeddwyr.
 
Datganiad o ddiddordeb
 
I fynegi eich diddordeb yn y cwrs yma llenwch y ffurflen amgaeedig a’i dychwelyd i [log in to unmask]
 
Ceisiadau yn cael eu cyfyngu i 2 y sefydliad, fodd bynnag, rydym yn hapus i roi unrhyw geisiadau eraill ar restr aros rhag ofn na fydd y cwrs yn llawn. Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais, cewch neges a gynhyrchir yn awtomatig i gadarnhau bod eich cais wedi ei dderbyn. Nodwch nad yw eich lle yn warantedig hyd nes y byddwch yn derbyn gwahoddiad i'r cwrs gan MALD.
 
 
Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Os bydd eich amgylchiadau’n newid ac na fyddwch yn gallu mynd ar y cwrs wedi'r cyfan, cysylltwch â Charlie Kingsbury ar unwaith drwy e-bostio [log in to unmask] neu ffoniwch 0300 062 2050 er mwyn i rywun arall ar y rhestr aros allu mynd yn eich lle.
 
Ni fyddwn bellach yn darparu cinio ar gyfer digwyddiadau hyfforddi er mwyn i ni allu cynnal amrywiaeth mor eang â phosibl o gyfleoedd hyfforddi. Serch hynny, byddwn yn parhau i gynnig te a choffi wrth i chi gyrraedd ac yn ystod egwyliau. Byddwn hefyd yn darparu gwybodaeth am y darparwyr bwyd lleol sydd gerllaw lleoliad yr hyfforddiant.
 
Bydd pob gohebiaeth sy'n ymwneud â'r cwrs hwn yn cael ei hanfon atoch yn electronig ar ôl ichi gofrestru; felly, gofynnwn am gyfeiriad e-bost unigol ar gyfer pob cynrychiolydd.
 
 
General Data Protection Regulation (GDPR)
Glamorgan Archives – 16th August 2018
Welsh Government Office, Aberystwyth – 17th August 2018
 
This training will be delivered through the medium of English
 
This free course is provided by the Welsh Government and is open to staff and volunteers working in museums, archives and libraries in Wales. It is suitable for those who wish to have a better understanding of GDPR and its implications for the sector.
 
Aim
The GDPR (General Data Protection Regulation) became law in the UK on 25 May as the Data Protection Act 2018 and requires you to ensure that you have the necessary measures in place. This comprehensive, specialised and interactive training day is led by expert presenter Naomi Korn and will outline newly required roles and responsibilities as well as provide top tips for success.
Training Methods
This practical course will use power point free training techniques, offer extensive hand outs and encourage participatory learning. 
 
Trainer
Naomi Korn - Founder and Managing Director of Naomi Korn Associates & Lead Consultant
Naomi Korn is one of the leading UK experts in copyright, data protection & GDPR, rights and licensing. She is a highly-experienced presenter and trainer and has run hundreds of workshops for charities, educational establishments, cultural heritage organisations and publishers.
Expression of interest
 
Please express your interest in this course by completing the attached form and returning it to [log in to unmask] .
 
Requests are limited to 2 per organisation however we are happy to waitlist any others in the event the course is not fully subscribed. Once you have submitted your request your will receive an automatically generated message to confirm that your request has been received. Please note your place is not guaranteed until you receive an invitation to the course from MALD.
 
Spaces are limited. If your circumstances subsequently change and you can no longer attend notify Charlie Kingsbury immediately on [log in to unmask] or 0300 062 2050 so your place can be awarded to someone on the waitlist.
 
In order to maintain as wide a range of training opportunities as possible MALD will no longer provide lunch for training events. We will continue to provide tea and coffee on arrival and during breaks. We will also provide information on available food providers located conveniently near the venue.
 
All correspondence relating to this course will be sent out electronically once you have registered; therefore you must supply an individual email address for each delegate.
 
 
Tîm Datblygu'r Gweithlu – Workforce Development Team
Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd.
Museums, Archives and Libraries Division
Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Department for Economy, Science and Transport
Llywodraeth Cynulliad Cymru - Welsh Government
Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UR
Ffon/Tel: 0300 062 2458
[log in to unmask]
 
 
 
Wrth adael Llywodraeth Cymru sganiwyd y neges yma am bob feirws. Mae Llywodraeth Cymru yn diogelu eich data o ddifrif. Os cysylltwch â Llywodraeth Cymru Mae ein hysbysiad preifatrwydd esbonio sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth a ffyrdd yr ydym yn diogelu eich preifatrwydd. Rydym yn croesawu derbyn gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ateb gohebiaeth a dderbynnir yn Gymraeg yn Gymraeg ac ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi. On leaving the Welsh Government this email was scanned for all known viruses. The Welsh Government takes the protection of your data seriously. If you contact the Welsh Government then our Privacy Notice explains how we use your information and the ways in which we protect your privacy. We welcome receiving correspondence in Welsh. Any correspondence received in Welsh will be answered in Welsh and corresponding in Welsh will not lead to a delay in responding.


To unsubscribe from the MUSEUMS-INFO list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=MUSEUMS-INFO&A=1