Print

Print


Dear colleagues,


Bangor University is advertising two Welsh-medium Graduate Teaching Assistantships in Modern Languages, including German. Please could you circulate to any Welsh-speakers who may be interested in teaching German language while undertaking a PhD (fees waived, 0.45 salary at Grade 6). The closing date is 13 July.


Further details: https://jobs.bangor.ac.uk/extpreview.php.en?nPostingId=3838&nPostingTargetId=4086&id=QLYFK026203F3VBQB7V68LOTX&LG=UK&mask=stdext


Yn y Gymraeg: https://jobs.bangor.ac.uk/details.php.cy?id=QR0FK026203F3VBQB7V68LOPI&nPostingID=3843&nPostingTargetID=4087&mask=extcy&lg=CY


Best wishes,

Anna


Cynorthwywyr Addysgu Graddedig Cyfrwng Cymraeg mewn Ffrangeg neu Tseiniaidd, Almaeneg, Eidaleg, Sbaeneg

Rhif Swydd
BU01700
Ysgol / Adran
Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern
Gwybodaeth Gyflog
£25,728 - £31,604 y flwyddyn PRO RATA ar Raddfa 6
Hyd y Contract
3 blynedd
Yn atebol i
Pennaeth yr Ysgol
Dyddiad Cau
13-07-2018

Gwahoddir ceisiadau am y swydd ran-amser (0.45 FTE) dros dro uchod yn yr Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth. Mae dwy swydd ar gael: un yn Ffrangeg, ac un yn unrhyw un o'r pedair iaith arall a ddysgir gan yr Ysgol:  Tsieneeg, Almaeneg, Eidaleg neu Sbaeneg.

Bydd y dyletswyddau'n cynnwys cynorthwyo gydag addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, yn cynnwys datblygu adnoddau dysgu a marcio aseiniadau.  Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus wneud PhD mewn Ieithoedd Modern neu Astudiaethau Cyfieithu a chaiff gyfle i gymryd rhan yng nghynllun PgCertHE Prifysgol Bangor; esgusodir talu ffioedd drwy gydol cyfnod cyflawni'r PhD.

Dylai bod gan ymgeiswyr fan leiaf radd 2.1 (neu gyfwerth) ar lefel israddedig (BA neu gyfwerth) ac yn rhugl yn Gymraeg, Saesneg a'r iaith y maent yn arbenigo ynddi, yn ogystal â chydag uchelgais i wneud ymchwil i lefel doethur.

Disgwylir i’r ymgeiswyr llwyddiannus ddechrau ar 1 Medi 2018, neu cyn gynted â phosibl wedyn. Mae’r swydd ar gael tan 31 Awst 2021.

Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal

Golwg gyffredinol

Mae'r Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern ym Mhrifysgol Bangor wedi cael canlyniadau rhagorol yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr (NSS) ac yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF).  Yn y panel REF Ieithoedd Modern ac Ieithyddiaeth, daeth Bangor i safle 13 yn y Deyrnas Unedig.  Mae gan yr Ysgol ddiwylliant ymchwil bywiog gyda phroffil rhyngwladol, ac mae staff academaidd wedi sefydlu projectau unigol ac ar y cyd o bwys yn hanes, diwylliannau a gwleidyddiaeth y byd Ffrengig, Sbaenaidd, Almaenig ac Eidalaidd, gydag arbenigedd gynyddol mewn Astudiaethau Cyfieithu ac Astudiaethau Dwyrain Asiaidd.  Mae ymchwil yn yr Ysgol yn canolbwyntio ar ystod o bynciau rhyng-ddiwylliannol, gan edrych hefyd ar amrywiaeth eang o safbwyntiau diwylliannol penodol. Mae yna is-adrannau iaith yn yr Ysgol, lle dysgir Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg i lefel Anrhydedd Sengl a Chyd-anrhydedd, ac Eidaleg a Tsieinëeg i lefel Cyd-anrhydedd. Mae’r Ysgol hefyd wedi creu cynllun gradd tair iaith arloesol a phoblogaidd iawn, ac mae'n cynnig nifer gynyddol o raglenni gradd ar y cyd gydag ystod eang o Ysgolion ar draws y brifysgol.

Cefnogir yr Ysgol hefyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol drwy ei gynllun Grantiau Pwnc, a bydd deiliaid y swyddi'n chwarae rhan allweddol mewn gweithredu Cynllun Datblygu Cenedlaethol y Coleg Cymraeg ym maes Ieithoedd a Diwylliannau Modern, a helpu i gyfnerthu ac ymestyn darpariaeth cyfrwng Cymraeg ym Mangor.

Mae mwy o wybodaeth am yr Ysgol a’i staff a'u diddordebau ymchwil i'w chael yn www.bangor.ac.uk/ml. I gael mwy o wybodaeth am y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a changen Prifysgol Bangor o'r Coleg, cysylltwch â Lois Roberts, Swyddog y Gangen: 01248 388247 neu [log in to unmask] Mae manylion llawn am waith a gweithgareddau'r Coleg Cymraeg i'w gael ar ei wefan: www.colegcymraeg.ac.uk

Diben y swydd

Mae'r swydd yn cynnwys rhoi cymorth gyda dysgu iaith am hyd at uchafswm o 16 awr yr wythnos (uchafswm o 10 awr yn y dosbarth), yn cynnwys gwella sgiliau iaith fodern myfyrwyr israddedig cyfrwng Cymraeg.
Disgwylir i'r ymgeiswyr llwyddiannus gofrestru i wneud PhD mewn Ieithoedd Modern neu Astudiaethau Cyfieithu.
Bydd cyfle hefyd i gymryd rhan yng nghynllun Tystysgrif Addysg Uwch i Raddedigion (PGCertHE) Prifysgol Bangor.

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau

Bydd dyletswyddau dysgu'n cynnwys:

• cynorthwyo gyda dysgu modiwlau a gwella sgiliau iaith myfyrwyr israddedig cyfrwng Cymraeg;
• marcio aseiniadau a rhoi cymorth gydag asesu fel bo'r angen;
• ysgogi myfyrwyr i gymryd diddordeb yn eu dysgu, a rhoi sylwadau ystyrlon ac adeiladol ar ansawdd eu gwaith;
• cynorthwyo gyda grwpiau bach o fyfyrwyr israddedig;
• helpu i ddatblygu adnoddau addysgu;
• cynnal a datblygu gweithgareddau ysgolheigaidd yn unol â strategaethau’r Brifysgol a’r Coleg.

Bydd y dyletswyddau gweinyddol yn cynnwys:

• cymryd rhan yng ngweithgareddau recriwtio myfyrwyr cyfrwng Cymraeg a gweithgareddau cynefino’r Ysgol;
• cymryd rhan yn y gwaith o weinyddu agweddau cyfrwng Cymraeg ar raglenni israddedig ac ôl-radd;
• cyfrannu at y gwaith o farchnata rhaglenni cyfrwng Cymraeg trwy gymryd rhan yng ngweithgareddau cyswllt ysgolion a cholegau ac mewn cynlluniau marchnata eraill;
• cyflawni dyletswyddau a chyfrifoldebau gweinyddol eraill yn ôl cyfarwyddyd Pennaeth yr Ysgol.

Ymchwil
Disgwylir i'r ymgeiswyr llwyddiannus wneud PhD ym maes Ieithoedd Modern neu Astudiaethau Cyfieithu, ac fe'u goruchwylir gan o leiaf un aelod staff o fewn yr Ysgol.  Cynghorir ymgeiswyr i ymgyfarwyddo ag arbenigeddau ymchwil staff yr Ysgol yn: https://www.bangor.ac.uk/ml/staff/en, ac mae angen iddynt gyflwyno cynnig ar gyfer project PhD gyda'u cais am y swydd.  Rhoddir ystyriaeth hefyd i bynciau sy'n cynnwys safbwynt cymharol.  Esgusodir talu ffioedd drwy gydol yr amser.

Dyletswyddau a chyfrifoldebau eraill

• Disgwylir i ddeiliad y swydd gymryd rhan mewn gweithgareddau datblygu ac adolygu perfformiad.
• Disgwylir i ddeiliad y swydd gydymffurfio â pholisïau a datganiadau cydraddoldeb y brifysgol, y polisi urddas wrth weithio ac astudio, a chynllun iaith Gymraeg y brifysgol.
• Mae gan ddeiliad y swydd ddyletswydd gofal cyffredinol a chyfreithiol mewn perthynas ag iechyd, diogelwch a lles, a rhaid iddo/iddi gymryd yr holl gamau sy’n rhesymol i sicrhau amgylchedd gwaith diogel ac iach iddo/iddi’i hun ac i aelodau eraill o'r staff, myfyrwyr ac ymwelwyr y bydd yr hyn a wna a'r hyn na wna'n effeithio arnynt. Mae’n ofynnol hefyd i ddeiliad y swydd gydymffurfio â’r holl bolisïau, gweithdrefnau ac asesiadau risg perthnasol yng nghyswllt iechyd a diogelwch.
• Rhaid i ddeiliad y swydd gydymffurfio â’r polisïau a’r dulliau gweithredu cyfreithiol a chyllidol perthnasol, a bod yn ymwybodol o’i g/chyfrifoldebau o ran gofynion cyfreithiol ei swydd.

Gofynion personol

Cymwysterau/Hyfforddiant

Hanfodol

• Gradd gyntaf dda (BA 2.1 fan leiaf neu gymhwyster cyfatebol).

Dymunol

• Gradd Meistr berthnasol.

Profiad/Gwybodaeth

Hanfodol
• Gallu dysgu’n effeithiol mewn maes pwnc perthnasol.
• Gwybodaeth gadarn am feysydd penodol sy’n gysylltiedig â’r swydd a diddordeb ynddynt.
• Uchelgais a gallu i wneud ymchwil ar lefel doethur.

Dymunol

• Profiad o ddysgu grwpiau bychain a dysgu iaith.
• Profiad o dechnegau sylfaenol sy’n gysylltiedig â’r maes ymchwil.

Sgiliau/Galluoedd

Hanfodol

• Rhugl yn Gymraeg, Saesneg ac un o'r ieithoedd eraill a ddysgir yn yr Ysgol, gyda sgiliau iaith rhagorol.
• Dulliau arloesol a chyffrous o addysgu ac ymchwilio.
• Gallu gweithio’n effeithiol fel rhan o dîm ac ar eich liwt ei hun.
• Dangos sgiliau da ar lafar ac yn ysgrifenedig.
• Sgiliau cyfrifiadurol da, yn cynnwys MS Office. Gallai hynny hefyd gynnwys gwybodaeth am feddalwedd penodol sy’n ymwneud a'r ymchwil.
• Gallu blaenoriaethu baich gwaith a chadw at derfynau amser.
• Dangos y gallu i weithio fel rhan o dîm.

Cyffredinol

Mae gan bob aelod o staff ddyletswydd i sicrhau eu bod yn gweithredu yn ôl nodau amgylcheddol cyffredinol y Brifysgol ac â'r effaith leiaf ar yr amgylchedd.

Cynigir pob swydd yn amodol ar dystiolaeth o gymhwyster i weithio yn y Deyrnas Unedig a derbyn tystlythyrau boddhaol.

Rhaid i bob ymgeisydd cyflawni gofynion ‘hawl i weithio’ y Deyrnas Unedig. Os oes angen caniatad y Swyddfa Gartref arnoch i weithio yn y Deyrnas Unedig, neu os oes angen i chi newid eich statws fisa er mwyn derbyn y swydd, sylwer ers i’r Llywodraeth gyflwyno cyfyngiadau ar fewnfudo gan weithwyr crefftus rydym yn argymell i chi ddefnyddio'r cyswllt canlynol i wybodaeth am y llwybrau i gyflogaeth ac i wirio gofynion cymhwysedd:

http://www.ukba.homeoffice.gov.uk/workingintheuk/



---
Dr Anna Saunders
Head of School / Pennaeth yr Ysgol
Senior Lecturer in German / Uwch-ddarlithydd Almaeneg
School of Modern Languages and Cultures / Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern
Bangor University / Prifysgol Bangor
Bangor
Gwynedd
LL57 2DG

+44 (0)1248 382135
[log in to unmask]

http://www.bangor.ac.uk/ml/staff/anna.php
Memorializing the GDR: Monuments and Memory after 1989 (Berghahn: 2018)<http://berghahnbooks.com/title/SaundersMemorializing>



Mae croeso i chi gysylltu gyda'r Brifysgol yn Gymraeg neu Saesneg

You are welcome to contact the University in Welsh or English

Rhif Elusen Gofrestredig 1141565 - Registered Charity No. 1141565

Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi, gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar unwaith a dilewch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi, rhaid i chi beidio a defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu 100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa Cyllid Prifysgol Bangor.

This email and any attachments may contain confidential material and is solely for the use of the intended recipient(s). If you have received this email in error, please notify the sender immediately and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you must not use, retain or disclose any information contained in this email. Any views or opinions are solely those of the sender and do not necessarily represent those of Bangor University. Bangor University does not guarantee that this email or any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless expressly stated in the body of the text of the email, this email is not intended to form a binding contract - a list of authorised signatories is available from the Bangor University Finance Office.


########################################################################

To unsubscribe from the WIGS-FORUM list, click the following link:
https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=WIGS-FORUM&A=1