COFFÁU’R RHYFEL ANGHOFIEDIG YN ERBYN Y LLONGAU-U
AR HYD ARFORDIR CYMRU
Yn ystod y penwythnos 22 – 24 Mehefin, bydd y Gymdeithas Archaeoleg Forwrol yn
cynnal ysgol faes arforol yng Nghlwb Hwylio a Chwaraeon Dŵr Traeth Coch, Traeth Bychan, Môn.
Mae’r digwyddiad yn rhan o brosiect wedi’i ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a
sefydlwyd gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru i goffáu canmlwyddiant diwedd
y Rhyfel Byd Cyntaf.
Digwyddiad AM DDIM yw’r ysgol faes, mae ar agor i bawb ac mae’n addas i bob oedran. Felly dewch i ymuno â ni a chymryd rhan yn y gweithgareddau a fydd yn cynnwys:
Yn ystod y penwythnos (os bydd y tywydd yn caniatáu), bydd deifwyr yn plymio i’r môr i archwilio llongddrylliad y Cartagena, treill-long ager a adeiladwyd
yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf i dreillio am ffrwydron nofio ar hyd arfordir Cymru. Mae bellach yn gorwedd 37m o dan yr wyneb, tua 6 milltir o Draeth Bychan.
Fel rhan o’r prosiect mae Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor wedi bod yn defnyddio ei llong arolygu, Prince
Madog, i gofnodi safleoedd llongddrylliadau ar hyd arfordir Cymru, gan gynnwys y Cartagena, a bydd y canlyniadau’n cael eu dangos yn ystod yr ysgol faes.
I gael mwy o wybodaeth am yr ysgol faes, cysylltwch â’r Gymdeithas Archaeoleg Forwrol:
Ffôn: 02392 818 419
Nodiadau i olygyddion
Mae’r ‘Prosiect Llongau-U’ yn coffáu’r Rhyfel Mawr ar y Môr ar hyd arfordir Cymru. Partneriaeth gwerth £1 filiwn yw hi a fydd yn para am ddwy flynedd ac sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a’i harwain
gan CBHC. Mae’n darparu mynediad digyffelyb, am y tro cyntaf mewn 100 mlynedd, i olion 17 longddrylliad sy’n gorwedd ar wely’r môr oddi ar arfordir Cymru. Mae’r rhain yn rhan bwysig o dreftadaeth
y Rhyfel Mawr ac eto ychydig iawn o ymchwil a wnaed i’r safleoedd gwerthfawr hyn.
Twitter: https://twitter.com/LlongauUBoat
|
COMMEMORATING THE FORGOTTEN U-BOAT WAR AROUND THE
WELSH COAST
Over the weekend of 22nd – 24th June, the Nautical Archaeology Society (NAS)
will be running a maritime field school at the Red Wharf Bay Sailing & Water Sports Club on Traeth Bychan Beach, Anglesey.
The event forms part of a Heritage Lottery Funded project instigated by the Royal
Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales (RCAHMW) to commemorate the centenary of the end of the First World War.
The field school is a FREE event, open to all and suitable for all ages, just come along and join in on the maritime activities taking place which include:
Over the course of the weekend (weather permitting), divers will be launching their boats to dive the wreck of the Cartagena, a steam trawler that was
built during World War One to trawl for mines around the Welsh coast, but now lies in 37m of water, around 6-miles off Traeth Bychan.
As part of the project, Bangor University, School of Ocean Sciences have
been recording World War One wreck sites around the Welsh coast from their survey vessel the Prince Madog, including the wreck of the Cartagena,
and their results will be on display during the field school.
For further information regarding the field school, please contact the Nautical Archaeology Society:
Tel: 02392 818 419
Notes for Editors
The ‘U-Boat Project’ commemorates the Great War at Sea around the coast of Wales. It is a 2-year Heritage Lottery Funded partnership project led by the RCAHMW, with an overall value of £1M, which provides unprecedented
access, for the first time in 100 years, to the remains of 17 wrecks on the seabed off the Welsh coast which are part of our Great War heritage, but which remain under-researched and under-valued.
Twitter: https://twitter.com/LlongauUBoat
|
|||||||||||||||||
|
|
|||||||||||||||||
|
|
|||||||||||||||||
Cysylltwch â ni ~ Contact us Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru Noddir gan Lywodraeth Cymru / Sponsored by Welsh Government
|
||||||||||||||||||
Croesewir gohebiaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg /
Correspondence welcomed in Welsh and English |
||||||||||||||||||
|
|