COFFÁU PROFIAD CYMRU O’R RHYFEL MAWR AR Y MÔR 3-4 Tachwedd 2018 Neuadd Pater, Lewis Street, Doc Penfro, SA72 6DD Bydd y gynhadledd ddau ddiwrnod hon yn edrych ar brofiad y llongwyr a chymunedau Cymreig a fu ynghlwm wrth weithgareddau’r Llynges Frenhinol, y llynges
fasnachol a’r diwydiant pysgota yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Nodau’r gynhadledd fydd rhoi sylw i’r ymchwil a’r prosiectau yr ymgymerwyd â nhw yn ystod cyfnod y coffáu, ac ysgogi mwy o ymchwil a phrosiectau treftadaeth cymunedol mewn perthynas ag effeithiau
hirbarhaol y rhyfel wedi iddo ddod i ben. Galwad am Gyfraniadau Gall cyfraniadau gael eu gwneud drwy gyflwyniadau neu weithdai ffurfiol, neu’n fwy anffurfiol yn ystod y sesiwn ‘anghynhadledd’ neu drwy osod stondin
arddangos. Rydym yn croesawu cyfraniadau drwy gyfrwng y Gymraeg, y Saesneg, neu’n ddwyieithog. Rydym hefyd yn annog menywod i gynnig cyflwyniadau. Yn sesiynau’r gynhadledd bydd papurau sy’n para am tua 30 munud yn cael eu cyflwyno. Bydd hefyd gyfres o sesiynau
15 munud llai ffurfiol. Anogwn unigolion a grwpiau sy’n cymryd rhan ym Mhrosiect Llongau-U Cymru i gyflwyno gwaith a gwblhawyd, sydd ar y gweill neu sydd yn yr arfaeth, yn y sesiynau hyn. Themâu a Thopigau Croesawn yn arbennig bapurau sy’n ymdrin â:
Gweithdai Fe fydd hefyd arddangosiadau ymarferol neu hyfforddiant ar ddefnyddio adnoddau ar-lein I ymchwilwyr. I wneud cais am gyflwyniad, trafodaeth seminar neu
weithdy, byddwch cystal ag anfon cynnig byr (300 gair) ynghyd â’ch enw a’ch sefydliad. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno papurau, seminarau a gweithdai yw Dydd Mercher, 1 Awst 2018. Bydd penderfyniadau’n cael eu gwneud ar ôl ystyried rhinweddau’r
ceisiadau unigol a pha mor berthnasol ydynt i’r rhaglen gyffredinol. Byddwn yn rhoi gwybod i ymgeiswyr am ein penderfyniad erbyn Dydd Gwener, 17 Awst 2018. Cynigir cofrestru di-dâl ar gyfer y digwyddiad i’r rheiny fydd yn cyflwyno papur neu weithdy. Byddwch cystal â nodi: er ein bod ni’n annog ymgeiswyr i
gyflwyno ceisiadau sy’n cynnwys mwy nag un siaradwr, ni allwn gynnig ond un cofrestriad di-dâl ar gyfer pob cais. Ni allwn gynnig unrhyw dreuliau eraill. Yn achos ymgeiswyr tramor, byddwn yn ystyried y posibilrwydd o gyflwyno papurau drwy ffrydio gwe byw. I gael mwy o wybodaeth, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â:
[log in to unmask]
neu drwy ffonio 01970 621200. Dilynwch y Prosiect Llongau-U ar-lein:
A FYDDECH CYSTAL AG ANFON Y NEGES HON
AT UNRHYW GYDWEITHWYR A ALLAI FOD Â
DIDDORDEB MEWN MYNYCHU’R GYNHADLEDD. YMDDIHEURIADAU AM GROES-BOSTIO. |
COMMEMORATING THE WELSH EXPERIENCE OF THE GREAT WAR AT SEA
3-4 November 2018
Pater Hall, Lewis Street, Pembroke Dock, SA72 6DD This two-day conference explores the experience of the mariners and communities of Wales who were engaged in Royal Navy, mercantile marine
and fishing industries during the First World War. The conference is intended both to showcase research and projects which have been undertaken during the commemorative period, but also to encourage further research and community-led heritage projects that
explore the continuing impact of the conflict in the post-war period. Call for Contributions Contributions can be made through formal presentations or workshops, or more informally during the ‘unconference’ session or by setting
up a show stand. We welcome contributions through the medium of Welsh, English, or bilingually. We also actively encourage presentations by women. Conference sessions will feature papers of around 30 minutes duration. There will also be a series of less formal
15-minute sessions. We actively encourage individuals and groups participating in the U-boat Project Wales to present their past, current and upcoming work in these sessions. Themes and Topics We particularly welcome papers which explore:
Workshops There will also be practical, hands-on demonstrations or training in the use of online resources for researchers. To make a submission for
a presentation, seminar discussion or workshop, please send us a short proposal (300 words) together with your name and organisation. Deadline for submissions The deadline for the submission of papers, seminars and workshops is Wednesday, 1 August 2018. Decisions will be made after consideration
of the merits of the individual submissions and their fit into the overall programme. We will notify applicants about our decision by Friday, 17 August 2018. Free registration for the event will be extended to those presenting a paper or workshop. Please note that while we strongly encourage submissions
which include more than one speaker, we can only offer one free registration per submission. We regret that no further expenses can be offered. For overseas applicants, presentation of papers via live-web streaming may be considered. For further information or any questions please contact:
Follow the U-Boat Project online:
PLEASE CIRCULATE THIS MESSAGE TO ANY
COLLEAGUES WHO MAY BE INTERESTED IN
ATTENDING. APOLOGIES FOR CROSS-POSTING. |
|||||||||||||
|
|
|||||||||||||
|
|
|||||||||||||
Cysylltwch â ni ~ Contact us Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru Noddir gan Lywodraeth Cymru / Sponsored by Welsh Government
|
|