Mae’r rôl y gall y celfyddydau, diwylliant a threftadaeth ei chwarae wrth wella iechyd a lles dinasyddion yn cael ei gydnabod fwyfwy erbyn hyn. Mae cyhoeddiad diweddar Cyngor Celfyddydau Cymru Y
Celfyddydau ac Iechyd yng Nghymru yn cyflwyno achos cryf sy’n dangos sut y gall cymryd rhan yn y celfyddydau wella iechyd meddwl, dementia a’r clefyd Parkinsons, er enghraifft. Mae’r Gynghrair
Genedlaethol ar gyfer amgueddfeydd, Iechyd a Lles yn Lloegr wedi cyhoeddi yn ddiweddar adroddiad ar gyfraniad amgueddfeydd.
Mae cysylltiad clir rhwng anfantais economaidd ac anghydraddoldeb iechyd, yn ogystal â chyfranogiad mewn gweithgareddau diwylliannol, felly mae heriau penodol yn bodoli o hyd o safbwynt ceisio helpu'r rheiny y mae mwyaf angen cymorth
arnynt.
Rydym yn ymwybodol bod llawer iawn o waith da yn digwydd yn y maes hwn ar draws Cymru o fewn amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd. Mae MALD yn chwilio am ffyrdd o ddeall, hybu a hwyluso gwaith y sector i gefnogi canlyniadau iechyd
a llesiant:
- Hoffem gasglu amrywiaeth eang o enghreifftiau ac astudiaethau achos sy'n adlewyrchu lle y mae arfer da yn digwydd.
- Hefyd, hoffem gael eich barn ar beth mwy allai ddigwydd i helpu'r sector i gyflawni mwy fyth o effaith yn y maes hwn.
At ddibenion y gwaith hwn, rydym yn chwilio am enghreifftiau lle y mae amgueddfeydd, archifau neu lyfrgelloedd wedi gweithredu neu wedi gweithio mewn partneriaeth ar waith sydd wedi’i lunio’n benodol ar gyfer gwella iechyd a llesiant
pobl. Gallai enghreifftiau gynnwys ymyriad neu brosiect ydych wedi ei roi ar waith neu ei gefnogi, gwasanaeth rheolaidd rydych yn ei ddarparu, neu newidiadau yr ydych wedi'u cyflwyno o fewn eich sefydliad.
Astudiaethau achos
Disgrifiwch yn gryno (dim mwy na 500 gair os oes modd):
- pam y gwnaethoch ddewis y camau gweithredu penodol
- sut gwnaethoch dargedu cynulleidfaoedd neu unigolion
- y gweithgaredd ei hun
- gyda phwy y gwnaethoch weithio, gan gynnwys gweithwyr gofal iechyd proffesiynol
- y canlyniadau rydych wedi’u cyflawni a sut rydych wedi casglu tystiolaeth o’r effaith ar gyfranogwyr
- unrhyw waith gwerthuso rydych chi neu eraill wedi’i wneud
- beth oedd yr effaith ar eich sefydliad
Gwybodaeth arall
Hoffem hefyd glywed eich barn ar beth allai ddigwydd i alluogi'r sector i gyflawni ymhellach yn y maes hwn i ehangu manteision, er enghraifft:
- unrhyw hyfforddiant neu gyfleoedd rhwydweithio yr hoffech chi eu cael (rhowch fanylion)
- canllawiau, adnoddau ac astudiaethau achos
Wrth adael Llywodraeth Cymru sganiwyd y neges yma am bob feirws. Mae’n bosibl y bydd gohebiaeth gyda Llywodraeth Cymru yn cael ei logio, ei monitro ac/neu ei chofnodi yn awtomatig am resymau
cyfreithiol. Rydym yn croesawu derbyn gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ateb gohebiaeth a dderbynnir yn Gymraeg yn Gymraeg ac ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi. On leaving the Welsh Government this email was scanned for all known viruses. Communications
with Welsh Government may be automatically logged, monitored and/or recorded for legal purposes. We welcome receiving correspondence in Welsh. Any correspondence received in Welsh will be answered in Welsh and corresponding in Welsh will not lead to a delay
in responding.