Diolch bawb am eich cynigion. Dwi’n cytuno Siân nad ydi ‘yma’ yn ddigon ffurfiol yn y math yma o ddogfen – mae hi fel tasa hi’n lled-gyfreithiol o ran ei chywair. Beth bynnag, o ddarllen ymhellach, mae ‘na fwy nag un weithdrefn (anffurfiol a ffurfiol) felly mae newid i ‘gweithdrefnau’ wedi datrys y broblem. Diolch eto Rhian From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts Sent: 17 April 2018 20:38 To: [log in to unmask] Subject: Re: unigol/lluosog Ond dwi ddim yn siŵr ydi “yma” yn ddigon safonol ar gyfer dogfen dechnegol. Siân On 17 Apr 2018, at 11:23, anna gruffydd <[log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]> > wrote: Be am ddefnyddio 'yma' - wedyn di'r broblem ddim yn bod! Anna Ye who opt for cut'n'paste Tread with care and not in haste! 2018-04-17 11:57 GMT+02:00 Rhian Huws <[log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]> >: Bore da Mae gen i ddogfen sy’n dwyn y teitl ‘policy and procedure’ ac mae’r geiriau ‘this policy and procedure’ yn cael eu defnyddio’n drwyddi draw. Fyddech chi’n rhoi ‘y polisi a’r weithdrefn hon’ / ‘y polisi hwn a’r weithrefn hon’? Neu hyd yn oed y lluosog? Neu rywbeth fel ‘y ddogfen polisi a gweithdrefn hon’? Neu newid ‘gweithdrefn’ yn ‘weithdrefnau’ a mynd am y lluosog? Diolch ymlaen llaw Rhian