Diolch yn fawr Mary.
Yr hyn sy’n fy mhoeni yw y bydden ni’n dweud ‘hysbyseb ½ (hanner) tudalen’ yn naturiol, ond ‘hysbyseb 1/8 (un wythfed/un rhan o wyth) o dudalen’ fydden ni’n ei ddweud. Mae’n edrych yn daclusach heb yr ‘o’ gan mai testun mewn tabl yw hwn, ac wedyn mae’n gyson gyda ¼ / ½ tudalen, ond a fydd rhywun yn gweld hyn fel gwall?
Diolch eto.
Rhian
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Mary Jones
Sent: 08 April 2018 14:34
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Ffracsiynau
Byddech yn dweud ‘hysbyseb hanner tudalen’ neu ‘hysbyseb ½ tudalen’, felly pam lai?
Mary
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhian Huws
Sent: 08 April 2018 14:25
To: [log in to unmask]
Subject: Ffracsiynau
P’nawn da bawb
Mae gen i ddogfen wedi’i hanelu at blant sy’n sôn am faint hysbysebion ac mae’n cynnwys pethau fel:
1/8 page advert (h.y. an advert which is one eighth of a page)
1/16 page advert
Fel arfer yn y Gymaeg bydden ni’n dweud ‘un rhan o wyth/wythfed ran o dudalen’. Ydi hi’n dderbyniol i roi ‘ hysbyseb 1/8 tudalen’ - hynny yw, heb yr ‘o’?
Diolch ymlaen llaw
Rhian