Diolch yn fawr Mary. Yr hyn sy’n fy mhoeni yw y bydden ni’n dweud ‘hysbyseb ½ (hanner) tudalen’ yn naturiol, ond ‘hysbyseb 1/8 (un wythfed/un rhan o wyth) o dudalen’ fydden ni’n ei ddweud. Mae’n edrych yn daclusach heb yr ‘o’ gan mai testun mewn tabl yw hwn, ac wedyn mae’n gyson gyda ¼ / ½ tudalen, ond a fydd rhywun yn gweld hyn fel gwall? Diolch eto. Rhian From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Mary Jones Sent: 08 April 2018 14:34 To: [log in to unmask] Subject: Re: Ffracsiynau Byddech yn dweud ‘hysbyseb hanner tudalen’ neu ‘hysbyseb ½ tudalen’, felly pam lai? Mary From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhian Huws Sent: 08 April 2018 14:25 To: [log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]> Subject: Ffracsiynau P’nawn da bawb Mae gen i ddogfen wedi’i hanelu at blant sy’n sôn am faint hysbysebion ac mae’n cynnwys pethau fel: 1/8 page advert (h.y. an advert which is one eighth of a page) 1/16 page advert Fel arfer yn y Gymaeg bydden ni’n dweud ‘un rhan o wyth/wythfed ran o dudalen’. Ydi hi’n dderbyniol i roi ‘ hysbyseb 1/8 tudalen’ - hynny yw, heb yr ‘o’? Diolch ymlaen llaw Rhian