Print

Print


Ar Term Cymru ceir:
changing places = lleoedd newid (Nodyn: arwydd i'w roi ar ddrws)

a hefyd

Changing Places toilet = toiled Changing Places (Nodyn: Toiledau i'r anabl ag offer ychwanegol, yn ôl gofynion y Changing Places Consortium)

Mae'r consortiwm, wrth drafod y sefyllfa o ran polisi cynllunio yng Nghymru http://www.changing-places.org/install_a_toilet/policy_and_legal/planning_policy_for_wales.aspx yn dyfynnu paragraff o Nodyn Cyngor Technegol 12, ac yn nogfen Gymraeg TAN 12 defnyddir y termau 'toiled Mannau Newydd' a 'toiledau Mannau Newid'.

Dryslyd iawn.  Dwi'n teimlo y byddai'n lletchwith braidd gweld arwydd 'Toiled Changing Places' ymysg arwyddion dwyieithog eraill.  Byddai'n well gen i ddefnyddio 'toiled/toiledau Mannau Newid', ond tybed a allaf i?

Gyda llaw, mae TAN 12 yn rhoi esboniad cryno o'r math hwn o doiledau, sef "Mae toiledau Mannau Newid yn gyfleusterau sydd wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer oedolion sydd ag anghenion nad ydynt yn cael eu diwallu gan doiledau cyffredin i bobl anabl.".

Claire

Mae Pennawd Cyf yn gwmni cyfyngedig wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan y rhif cofrestru 4276774, a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig yw 46A Heol Merthyr, yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 1DJ.

Pennawd Cyf is a limited company registered in England and Wales under the number 4276774, and the address of the registered office is 46A Merthyr Road, Whitchurch, Cardiff, CF14 1DJ.