Mi fasa'n hyfryd o beth. Oes modd cael gan Ganolfan Bedwyr ymgymryd a'r gwaith tybed?

Anna

Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!

2018-04-08 19:39 GMT+02:00 Gwenlli Haf <[log in to unmask]>:
Annwyl gyfeillion,

Wrth gyfieithu darn yn ddiweddar, cysylltais â Chyngor Casnewydd, i wirio enw stryd newydd nad oedd yn ymddangos ar Google maps (felly methodd fy nhric arferol o ddefnyddio 'street view' i ganfod a oes enw Cymraeg ar y stryd).

Y rheswm dros atgyfodi'r edefyn negeseuon yma'n benodol yw mod i'n aml yn cyfeirio at y ffeil "Enwau Strydoedd Dwyieithog (Swyddfa'r Post Mehefin 2003)". Soniais wrth y swyddog yng Nghasnewydd bod y rhestr rhannol hon yn bodoli, ond nad yw Casnewydd wedi'i gynnwys arni.

Beth bynnag, dyma dderbyn y neges hon gan y swyddog cyfeillgar o Gasnewydd:

"Since the adoption of Newport’s Street Naming & Numbering policy in 2013 all new streets have been named bilingually. Any existing street names remain monolingual.  There is, therefore, a Welsh translation for Loftus Walk which is Heol Loftus.

I’m very interested to find out more about the directory that you mention. We send updates of our list of bilingual street names to the translation service we use but it makes good sense for there to be a national directory. Do you know how I would submit to this?
Happy to help with any further queries you may have. Cofion cynnes..."


Mi wn fod enwau strydoedd yn draul ar ein hamser ni oll o bryd i'w gilydd.
Ond, beth i'w wneud efo'r cynnig? Wn i ddim pwy (os oes unrhyw un bellach) sy'n cadw'r rhestr hwn.
Wn i ddim oes 'na ddymuniad/amser/egni o fewn y cylch i drio rhoi rhyw fath o ddiweddariad at ei gilydd (ac ydw, dwi'n deall pa mor naïf dwi'n swnio yn awgrymu'r fath beth!).

Gwenlli