Print

Print


 

 

DATGANIAD I’R WASG – Gwobrau Angel Treftadaeth Cymru

Mae’r chwilio wedi dechrau am Angylion Treftadaeth Cymru

Bydd pobl sy’n achub adeiladau hanesyddol o esgeulustod yn cael eu cydnabod gan gynllun gwobrau Cymreig newydd o’r enw ‘Angylion Treftadaeth Cymru’ sy’n cael ei noddi gan Sefydliad Andrew Lloyd Webber. Gall unrhyw un enwebu person neu brosiect ar gyfer y gwobrau a chyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni Wobrwyo fawreddog yn Nhachwedd 2018.

Cafodd y cynllun ei lansio gan Dafydd Elis-Thomas, Gweinidog Treftadaeth Cymru, ar 16 Ebrill wrth ymweld â Thŷ Weindio’r Hetty ger Pontypridd. Byddai’r tŷ weindio ager hwn o oes Fictoria yn cludo glowyr a glo i fyny ac i lawr siafft 360 metr (1,181 troedfedd) o hyd, nes i Lofa’r Great Western gau ym 1983. Mae Ymddiriedolaeth Cadwraeth Glofa’r Great Western wedi adfer y Tŷ Weindio rhestredig fel ei fod yn gweithio eto – ‘enghraifft berffaith’ meddai’r Gweinidog, ‘o’r math o brosiect y sefydlwyd Gwobrau Angel Treftadaeth Cymru i’w dathlu’.

Mae pum categori o wobrau:

  • Enghraifft Orau o Achub Adeilad neu Le Hanesyddol ar gyfer prosiectau’n costio llai na £5m
  • Enghraifft Orau o Adfywio Adeilad neu Le Hanesyddol ar Raddfa Fawr ar gyfer prosiectau’n costio mwy na £5m
  • Cyfraniad Gorau i Brosiect Treftadaeth gan Bobl Ifainc
  • Crefftwr neu Brentis Gorau ar Brosiect Achub neu Atgyweirio Treftadaeth
  • Enghraifft Orau o Ymchwil, Dehongli neu Gofnodi Treftadaeth

Enghreifftiau o rai sydd wedi cyrraedd rhestri byr blaenorol, o’r tu allan i Gymru, yw gwirfoddolwr ymroddedig sy’n cynnal cerrig milltir hanesyddol, grŵp o gyn-aelodau o’r lluoedd arfog sy’n adfer camlesi, saer maen sydd wedi trosglwyddo ei fedrau i gannoedd o hyfforddeion, aelodau grŵp cymunedol sy’n cofnodi cerrig beddau ym mynwentydd hen gapeli ac eglwysi, a gwirfoddolwr sydd wedi datblygu teithiau yn ei amgueddfa leol sy’n ddelfrydol i bobl awtistig.

Mae’r Farwnes Andrews, Cadeirydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru wedi cytuno i fod yn feirniad. Meddai “Mae’r Gwobrau Angel Treftadaeth wedi’u seilio ar syniad syml, sef y dylid diolch i’r rheiny sy’n gweithio’n ddiflino ac yn ddistaw i achub a gwarchod treftadaeth Cymru a dathlu’r gwaith gwirfoddol maen nhw’n ei wneud. Hebddyn nhw, gallai elfennau llai ffasiynol ein treftadaeth gael eu colli am byth – ac eto dyma’r lleoedd sy’n golygu cymaint i’n cymunedau: camlesi a dyfrffyrdd, melinau gwynt a gorsafoedd rheilffordd, sinemâu, capeli a neuaddau’r gweithwyr. Heb eu gwaith anhunanol nhw, byddai llawer o gymeriad Cymru wledig, arfordirol a threfol yn cael ei golli. Nid yw’r ‘Angylion’ hyn wedi arfer ag adrodd eu storïau ar lwyfan cenedlaethol, ond bydd y Gwobrau Angel yn awr yn eu galluogi i wneud hynny – ac i ysbrydoli pawb drwy’r wlad. Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn falch iawn o allu cyfrannu at ddarganfod trysorau amhrisiadwy ein gwlad.”

Mae enwebu pobl a phrosiectau ar gyfer y gwobrau’n syml: mae’r manylion llawn i’w cael yn www.cbhc.gov.uk/amdanom-ni/gwobrauangeltreftadaethcymru/

 

Meddai Andrew Lloyd Webber, a sefydlodd Wobrau Angel Historic England yn 2011: “Rydw i’n canmol pawb sy’n cystadlu am y Gwobrau Angel ac sy’n dangos i’r byd y gwaith bendigedig maen nhw’n ei wneud i achub a diogelu ein treftadaeth. Rydw i’n arbennig o falch bod Cymru’n cymryd rhan eleni gan fod hyn yn golygu bod y Gwobrau Angel yn cael eu cynnal ar hyd y DU am y tro cyntaf. Mae’r Gwobrau Angel yn tynnu sylw at yr unigolion a grwpiau arbennig hynny sy’n mynd i’r afael ag adeiladau a safleoedd hanesyddol anodd sydd mewn perygl ac sy’n ysbrydoli pobl eraill i ymuno â nhw. Rydw i wrth fy modd y byddwn ni’n cyflwyno gwobr arbennig yn y seremoni yn Llundain i’r enillydd cyffredinol o’r holl gategorïau Gwobrau Angel yn Lloegr, Gogledd Iwerddon, Yr Alban a Chymru. Hoffwn annog pawb i gamu ymlaen a gwneud cais am y gwobrau.”

 

Y Diwedd

Nodiadau i olygyddion

Gall unrhyw un enwebu pobl a phrosiectau ar gyfer y gwobrau.

Mae enwebu’n syml; mae ffurflen enwebu (ynghyd â thelerau ac amodau) i’w chael ar wefan Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru: www.cbhc.gov.uk/amdanom-ni/gwobrauangeltreftadaethcymru/

Gwahoddir enwebiadau o dan bum categori:

  • Enghraifft Orau o Achub Adeilad neu Le Hanesyddol ar gyfer prosiectau’n costio llai na £5m
  • Enghraifft Orau o Adfywio Adeilad neu Le Hanesyddol ar Raddfa Fawr ar gyfer prosiectau’n costio mwy na £5m
  • Cyfraniad Gorau i Brosiect Treftadaeth gan Bobl Ifanc
  • Crefftwr neu Brentis Gorau ar Brosiect Achub neu Atgyweirio Treftadaeth
  • Enghraifft Orau o Ymchwil, Dehongli neu Gofnodi Treftadaeth
  • Enghraifft Orau o Achub, Cofnodi neu Ddehongli Lle Hanesyddol

Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 21 Mehefin 2018.

Bydd tri pherson neu brosiect yn cael eu dewis ym mhob categori a chyhoeddir y rhestri byr ar 9 Medi 2018.

Bydd y seremoni Wobrwyo yn cael ei chynnal yn Nhachwedd 2018 [dyddiad a lleoliad i’w cyhoeddi’n fuan].

Bydd enw’r prif enillydd  o’r pedair cenedl (Lloegr, Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon) yn cael ei gyhoeddi mewn digwyddiad mawreddog yn Llundain yn hwyrach ym mis Tachwedd 2018.

Noddir y cynllun Gwobrau Angel Treftadaeth Cymru gan Sefydliad Andrew Lloyd Webber: 

 

Ynghylch Sefydliad Andrew Lloyd Webber
Cafodd Sefydliad Andrew Lloyd Webber ei sefydlu gan Andrew ym 1992 i hyrwyddo’r celfyddydau, diwylliant a threftadaeth er budd y cyhoedd; ers y dechrau Andrew sydd wedi darparu’r rhan fwyaf o’r arian ar gyfer gweithgareddau elusennol y Sefydliad. Yn 2010, fe ddechreuodd y Sefydliad raglen rhoi grantiau ac erbyn hyn mae wedi dyfarnu grantiau gwerth mwy na £18 miliwn i hybu hyfforddiant a datblygiad personol o safon uchel ac i gefnogi prosiectau sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy gyfoethogi ansawdd bywyd unigolion a chymunedau lleol. Rhai grantiau sylweddol a roddwyd yw £3.5m i’r Arts Educational Schools, Llundain i greu theatr broffesiynol â’r cyfleusterau diweddaraf, £2.4m i’r Ymddiriedolaeth Cerddoriaeth mewn Ysgolion Uwchradd, £1m i’r Gronfa Treftadaeth Bensaernïol, $1.3m i’r American Theatre Wing, a mwy na £350,000 bob blwyddyn i ariannu 30 ysgoloriaeth yn y celfyddydau perfformio ar gyfer myfyrwyr dawnus sydd mewn angen ariannol.  http://andrewlloydwebberfoundation.com/

 

Mae Gwobrau Angel Treftadaeth Cymru yng ngofal grŵp llywio sy’n cynnwys cynrychiolwyr o nifer o sefydliadau Cymreig, gan gynnwys Cadw, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru, Cyngor Archaeoleg Prydain Cymru, y Sefydliad Cadwraeth Adeiladau Hanesyddol, Cymdeithas Frenhinol y Penseiri yng Nghymru, Glandŵr Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (www.cbhc.gov.uk) sy’n gweinyddu’r Gwobrau yng Nghymru ar ran y Grŵp Llywio Gwobrau Angel Treftadaeth Cymru.

 

Manylion cysylltu:

Angharad Williams, Rheolwr Ymgysylltu â’r Cyhoedd , Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

01970 621 237    [log in to unmask]

 

 

PRESS RELEASE – Heritage Angel Awards Wales

 

The search is on for Wales’s Heritage Angels

People who rescue historic buildings from neglect are to be recognised as ‘Heritage Angels’ by a new Welsh awards scheme sponsored by the Andrew Lloyd-Webber Foundation. Anyone can nominate a person or project for the awards and the winners will be announced at a glittering awards ceremony in November 2018.

Wales’s Heritage Minister, Dafydd Elis-Thomas, launched the awards scheme on 16 April while visiting Hetty Winding House, near Pontypridd. The Victorian steam-powered winding house transported miners and coal up and down a 360-metre (1,181foot) mine shaft until the Great Western Colliery closed in 1983. The Great Western Colliery Preservation Trust has restored the listed Winding House to working order – ‘a perfect example’ the Minister said, ‘of the sort of project that the Heritage Angel Awards Wales are designed to celebrate’.

The Awards have five categories:

  • Best Rescue of an Historic Building or Place for projects under £5m
  • Best Major Regeneration of an historic building or place for projects in excess of £5m
  • Best Contribution to a Heritage Project by Young People
  • Best Craftsperson or Apprentice on a Heritage Rescue or Repair Project
  • Best Heritage Research, Interpretation or Recording

Examples of previous shortlists from outside Wales have included a dedicated volunteer who maintains historic milestones, a group of ex-servicemen who restore canals, a stonemason who has passed his skills on to hundreds of trainees, a community group that records old chapel and churchyard gravestones, and a volunteer who has developed relaxed autism-friendly tours at his local museum.

Baroness Andrews, Chair of the Heritage Lottery Fund in Wales, has agreed to be a judge. She says “The Heritage Angel Awards are based on a simple idea.  That those who work tirelessly, and often silently, to rescue and care for the heritage of Wales should be thanked and celebrated for the voluntary work they do.   Without them, the less fashionable elements of our heritage might be lost for ever – yet these are the places which mean so much in our communities: the canals and waterways, windmills and railway stations, cinemas, chapels and workmen’s halls.   Without their selfless work, much of the character of Wales, in rural, coastal and urban Wales would be lost.   These ‘Angels’ are not used to telling their stories on a national stage, but the Angel Awards will now enable them to do just that – and to the inspiration of all Wales. HLF is very proud indeed to have a part in this national discovery of the best of our country”.

Nominating people and projects for the awards is simple: you can find full details at www.rcahmw.gov.uk/about-us/heritageangelawardswales/

 

Andrew Lloyd Webber, who founded the Historic England Angel Awards in 2011said: “I applaud everyone who enters the Angel Awards and showcases their heritage rescues. I am particularly pleased that Wales is on board this year so the Angel Awards are running for the first time in all four home nations. They shine a light on the special individuals and groups who tackle difficult historic buildings and sites at risk across the UK and inspire others to get involved. I am also excited to announce that at the awards ceremony in London this year, we will be presenting a special award to the overall winner from all the Angel Award categories in England, Northern Ireland, Scotland and Wales, so I encourage everyone to come forward and send in their applications.”

 

End

Notes for editors

Anyone can nominate people and projects for the awards.

Nomination is simple; a nomination form (plus terms and conditions) can be found on the Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales website: www.rcahmw.gov.uk/about-us/heritageangelawardswales/

Nominations are invited under five categories:

  • Best Rescue of an Historic Building or Place for projects under £5m
  • Best Major Regeneration of an historic building or place for projects in excess of £5m
  • Best Contribution to a Heritage Project by Young People
  • Best Craftsperson or Apprentice on a Heritage Rescue or Repair Project
  • Best Heritage Research, Interpretation or Recording

The closing date for nominations is 21 June 2018.

Three people / projects will be selected from each category and the shortlists will be announced on 9 September 2018.

The Awards ceremony will take place in November 2018 [date and location TBC].

The overall winner from all four nations (England, Wales, Scotland and Northern Ireland) will be announced at a gala event in London in November 2018.

The Heritage Angel Awards Wales scheme is sponsored by the Andrew Lloyd Webber Foundation: 


About the Andrew Lloyd Webber Foundation           

The Andrew Lloyd Webber Foundation was set up by Andrew in 1992 to promote the arts, culture and heritage for the public benefit; since inception Andrew has been the principal provider of funding for all its charitable activities. In 2010, the Foundation embarked on an active grant giving programme and has now awarded grants of over £18m to support high quality training and personal development as well as other projects that make a real difference to enrich the quality of life both for individuals and within local communities. Significant grants include £3.5m to Arts Educational Schools, London to create a state of the art professional theatre, £2.4m to the Music in Secondary Schools Trust, £1m to The Architectural Heritage Fund, $1.3m to the American Theatre Wing and over £350,000 annually to fund 30 performing arts scholarships for talented students in financial need.  http://andrewlloydwebberfoundation.com/

The Heritage Angel Awards Wales are supported by a steering group made up of representatives of a number of Welsh organisations including Cadw, the National Trust, the Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales, the Heritage Lottery Fund, the Welsh Archaeological Trusts, the Council for British Archaeology Wales Cymru, the Institute of Historic Building Conservation, the Royal Society of Architects in Wales, Glandŵr Cymru – Canal and River Trust in Wales and Wales Council for Voluntary Action.

Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales (www.rcahmw.gov.uk) are administrating the Awards in Wales on behalf of the Heritage Angel Awards Wales Steering Group.

 

Contact details:

Angharad Williams, Public Engagement Manager, Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales
01970 621 237       [log in to unmask]

 

 

 

 

 

 

Cafodd y cynllun Gwobrau Angel Treftadaeth Cymru ei lansio gan Weinidog Treftadaeth Cymru, Dafydd Elis-Thomas, yn ystod ymweldiad â Thŷ Weindio’r Hetty ger Pontypridd, ar 16 Ebrill, 2018. Chwith i’r dde: Dafydd Elis-Thomas, Gweinidog Treftadaeth Cymru, Brian Davies, Ymddiriedolaeth Cadwraeth Glofa’r Great Western, a Christopher Catling, Yr Ysgrifennydd (Prif Weithredwr) CBHC.

 

The Heritage Angel Awards Wales scheme was launched by Wales’s Heritage Minister, Dafydd Elis-Thomas, during his visit to Hetty Winding House, near Pontypridd on 16 April 2018. Left to Right: Dafydd Elis-Thomas, Wales’s Heritage Minister, Brian Davies, Great Western Colliery Preservation Trust, and Christopher Catling The Secretary (CEO), RCAHMW.

 

 

 

Tŷ Weindio’r Hetty ger Pontypridd Chwith i’r Dde: Brian Davies, Ymddiriedolaeth Cadwraeth Glofa’r Great Western; Susan Mason, CADW; Christopher Catling Yr Ysgrifennydd (Prif Weithredwr) CBHC; Dafydd Elis-Thomas, Gweinidog Treftadaeth Cymru.

 

At Hetty Winding House Left to Right: Brian Davies, Great Western Colliery Preservation Trust; Susan Mason, CADW; Christopher Catling The Secretary (CEO), RCAHMW; Dafydd Elis-Thomas, Wales’s Heritage Minister.

 

 

 

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru

 

Gallwch hoffi Comisiwn Brenhinol ar Facebook a dilyn @RCAHMWales ar Twitter i gael y newyddion diweddaraf.

 

Ffôn: 01970 621200

E-bost: [log in to unmask]

 

 

Subscribe to the Heritage of Wales News

 

You can ‘like’ the Royal Commission on Facebook and follow @RCAHMWales on Twitter to stay up to date.

 

Tel: 01970 621200

E-mail: [log in to unmask]

 


 

Rydym ghefyd ar gael ar   /   Also find us on:
Facebook  Twitter Google-plus YouTube Facebook Flickr

 

 

Cysylltwch â ni ~ Contact us 

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales
Ffordd Penglais
Aberystwyth
Ceredigion SY23 3BU
Ffôn - Telephone: 01970 621200
Ffacs - Fax: 01970 627701
E-bost
: [log in to unmask] / E-mail: [log in to unmask]
Gwefan: www.cbhc.gov.uk / Website: www.rcahmw.gov.uk

Noddir gan Lywodraeth Cymru / Sponsored by Welsh Government

 

 

 

 

Charles Green

Swyddog Ymgysylltu â’r Cyhoedd (Graffigwaith) | Public Engagement Officer (Graphics)

Ffordd Penglais | Penglais Road,

 Aberystwyth,

 SY23 3BU

+44 (0) 1970 621 220

[log in to unmask]

 | 

[log in to unmask]

www.cbhc.gov.uk 

|

 www.rcahmw.gov.uk

Noddir gan Lywodraeth Cymru 

|

 Sponsored by Welsh Government

Facebook

Twitter

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg a Saesneg. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn peri oedi.

We welcome correspondence in Welsh and English. Corresponding in Welsh will not lead to any delay.

 

 

Charles Green
Swyddog Ymgysylltu â’r Cyhoedd (Graffigwaith) | Public Engagement Officer (Graphics)
Ffordd Penglais | Penglais Road, Aberystwyth, SY23 3BU
+44 (0) 1970 621 220
[log in to unmask] | [log in to unmask]
www.cbhc.gov.uk | www.rcahmw.gov.uk
Noddir gan Lywodraeth Cymru | Sponsored by Welsh Government
Facebook
Twitter
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg a Saesneg. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn peri oedi.
We welcome correspondence in Welsh and English. Corresponding in Welsh will not lead to any delay.