Print

Print


Neges ddwyieithog yw hon - Gweler isod ar gyfer y fersiwn Saesneg / This is a bilingual message - Please see below for English version
 
Cynnal a Chadw, Labelu a Marcio
Y Stori Caerdydd- 17-Mai-18
Swyddfa Llywodraeth Cymru, Cyffordd Llandudno - 25-Mai-18
 
 
Bydd yr hyfforddiant hwn yn cael ei roi drwy gyfrwng y Saesneg.
 
Llywodraeth Cymru sy'n darparu'r cwrs hwn, sy'n rhad ac am ddim, ac mae’n cael ei gynnig i staff a gwirfoddolwyr sy'n gweithio yn amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd Cymru. Mae’n addas i’r rhai y gallai eu swyddi gynnwys cynnal a chadw a gofalu am wrthrychau sy’n cael eu harddangos a storio sy’n cynnwys glanhau sylfaenol; bydd y cwrs hefyd yn cyflwyno gwahanol dechnegau labelu a marcio. Mae’r cwrs hefyd yn addas i’r rhai sy’n dymuno meithrin sgiliau o fewn y meysydd hyn. 
 
Dylai’r mynychwyr ddod ag eitemau i’w marcio sy’n adlewyrchu’r mathau o wrthrychau sydd ganddynt yn eu casgliadau. Gall yr eitemau hyn fod yn eitemau o’r cartref, y casgliad trafod neu’ch casgliad gwirioneddol ond mae’n rhaid i chi fod yn barod i roi rhif iddynt.
 
 
Nod
 
Bydd y cwrs ymarferol hwn yn trafod egwyddorion a theori deunyddiau cadwraeth, trafod gofalus a glanhau. Bydd yn symud ymlaen i sesiwn ymarferol ar labelu a marcio, gan ddilyn fersiwn symlach o’r gweithdrefnau a nodir yn y canllaw casgliadau (y canllaw spectrum gynt) ar labelu a marcio gwrthrychau amgueddfa. Bydd y mynychwyr yn ennill profiad ymarferol o wahanol dechnegau labelu a marcio.
 
 
Erbyn diwedd y dydd, bydd y rheini sy’n dilyn y cwrs yn gallu
 
 
 
Dulliau Hyfforddi
 
Darlithoedd gyda sleidiau, taflenni, arddangosiadau a sesiynau ymarferol. Bydd hyn yn cynnwys ysgrifennu mewn rhifau bach ar wrthrychau amgueddfeydd. Efallai y bydd angen i bobl sydd â nam ar eu golwg neu nam ar eu sgiliau echddygol manwl drafod addasrwydd y cwrs fel bod modd ei addasu ar y cyd â MALD a’r hyfforddwr.
 
 
Paratoi
 
Gofynnwn i’r holl fynychwyr ddod â deunyddiau yr hoffent eu labelu neu eu marcio neu hysbysu MALD o’r mathau o ddeunyddiau er mwyn sicrhau bod y cwrs yn rhoi sylw i’r technegau perthnasol.
 
Hyfforddwr
 
Jane Henderson
 
Datganiad o ddiddordeb
 
I fynegi eich diddordeb yn y cwrs yma llenwch y ffurflen amgaeedig a’i dychwelyd i [log in to unmask]
 
 
Ceisiadau yn cael eu cyfyngu i 2 y sefydliad, fodd bynnag, rydym yn hapus i roi unrhyw geisiadau eraill ar restr aros rhag ofn na fydd y cwrs yn llawn. Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais, cewch neges a gynhyrchir yn awtomatig i gadarnhau bod eich cais wedi ei dderbyn. Nodwch nad yw eich lle yn warantedig hyd nes y byddwch yn derbyn gwahoddiad i'r cwrs gan MALD.
 
 
Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Os bydd eich amgylchiadau’n newid ac na fyddwch yn gallu mynd ar y cwrs wedi'r cyfan, cysylltwch â Charlie Kingsbury ar unwaith drwy e-bostio [log in to unmask] neu ffoniwch 0300 062 2050  er mwyn i rywun arall ar y rhestr aros allu mynd yn eich lle.
 
Ni fyddwn bellach yn darparu cinio ar gyfer digwyddiadau hyfforddi er mwyn i ni allu cynnal amrywiaeth mor eang â phosibl o gyfleoedd hyfforddi. Serch hynny, byddwn yn parhau i gynnig te a choffi wrth i chi gyrraedd ac yn ystod egwyliau. Byddwn hefyd yn darparu gwybodaeth am y darparwyr bwyd lleol sydd gerllaw lleoliad yr hyfforddiant.
Bydd pob gohebiaeth sy'n ymwneud â'r cwrs hwn yn cael ei hanfon atoch yn electronig ar ôl ichi gofrestru; felly, gofynnwn am gyfeiriad e-bost unigol ar gyfer pob cynrychiolydd.
 
 
Housekeeping, labelling and marking
The Cardiff Story - 17-May-18
Welsh Government Office Llandudno Junction - 25-May-18
 
 
This training will be delivered through the medium of English
 
This free course is provided by the Welsh Government and is open to staff and volunteers working in museums, archives and libraries in Wales. It is suitable for those whose role may include the care and maintenance of objects on display and storage which involves basic cleaning; the course will also introduce participants to a range of approved labelling and marking techniques. The course is also suitable for those seeking to gain skills in these areas.
 
Delegates should bring items to mark that reflect the types of objects that they have in their collection. These can be items from home, the handling collection or your actual collection but you must be prepared to attach a number to them.
 
Aim
This hands-on course will cover the theory and principles of conservation materials, careful handling and cleaning. It will move on to a practical session on labelling and marking following a simplified version of the procedures set out in the collections link guide (formally the spectrum guide) to labelling and marking museum objects. Delegates will be undertaking hands on practice of a range of labelling and marking techniques.
 
 
By the end of the course participants will be able to
 
             and marking
             supervision
             undertaking housekeeping, labelling and marking in a museum
             Labelling and Marking Museum Objects’ (formally known as the spectrum guide)
             begin to have a feel for how to use them
 
Training Methods
Lectures with slides, hands outs, demonstrations and practical sessions, which will include writing in small numbers on museum objects. Anyone with visual impairments or restriction in fine motor skills may need to discuss the suitability of the course for adaption with MALD and the trainer.
 
Preparation
Could all delegates please bring materials that they would like to label or mark or notify MALD of the type of material in order to ensure that all relevant techniques are covered.
 
Trainer
Jane Henderson
 
Expression of interest
 
Please express your interest in this course by completing the attached form and returning it to [log in to unmask] .
 
 
Requests are limited to 2 per organisation however we are happy to waitlist any others in the event the course is not fully subscribed. Once you have submitted your request your will receive an automatically generated message to confirm that your request has been received. Please note your place is not guaranteed until you receive an invitation to the course from MALD.
 
Spaces are limited. If your circumstances subsequently change and you can no longer attend notify Charlie Kingsbury immediately on [log in to unmask] or 0300 062 2050 so your place can be awarded to someone on the waitlist.
 
In order to maintain as wide a range of training opportunities as possible MALD will no longer provide lunch for training events. We will continue to provide tea and coffee on arrival and during breaks. We will also provide information on available food providers located conveniently near the venue.
All correspondence relating to this course will be sent out electronically once you have registered; therefore you must supply an individual email address for each delegate.
 
 
Tîm Datblygu'r Gweithlu – Workforce Development Team
Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd.
Museums, Archives and Libraries Division
[log in to unmask]
 
 
Wrth adael Llywodraeth Cymru sganiwyd y neges yma am bob feirws. Mae’n bosibl y bydd gohebiaeth gyda Llywodraeth Cymru yn cael ei logio, ei monitro ac/neu ei chofnodi yn awtomatig am resymau cyfreithiol. Rydym yn croesawu derbyn gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ateb gohebiaeth a dderbynnir yn Gymraeg yn Gymraeg ac ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi. On leaving the Welsh Government this email was scanned for all known viruses. Communications with Welsh Government may be automatically logged, monitored and/or recorded for legal purposes. We welcome receiving correspondence in Welsh. Any correspondence received in Welsh will be answered in Welsh and corresponding in Welsh will not lead to a delay in responding.