Print

Print


Hyfforddiant ar ddiogelwch personol i weithwyr unigol
Storiel - 10-Ebrill-18
Amgueddfa Pontypridd- 17-Ebrill-18

Bydd yr hyfforddiant hwn yn cael ei roi drwy gyfrwng y Saesneg.

Llywodraeth Cymru sy'n darparu'r cwrs hwn, sy'n rhad ac am ddim, ac mae'n cael ei gynnig i staff a gwirfoddolwyr sy'n gweithio yn amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd Cymru. . Mae'n addas i'r rhai sy'n weithwyr unigol.


Nod
Codi ymwybyddiaeth o'r risgiau y gallai staff sy'n weithwyr unigol eu hwynebu a rhoi'r dulliau sydd eu hangen arnynt i sicrhau cyn lleied â phosibl o beryglon.

Erbyn diwedd y dydd, bydd y rheini sy'n dilyn y cwrs yn gallu
Trafod peryglon posibl a theimlo'n fwy hyderus wrth reoli eu diogelwch personol a sefyllfaoedd lle y ceir gwrthdaro.

Mae'r pynciau a drafodir yn cynnwys:
*       Gweithio'n unigol - y gyfraith a chyfrifoldebau'r cyflogwr a'r gweithiwr
*       Asesu risg - pennu ac asesu risgiau sy'n gysylltiedig â phob agwedd ar weithio'n unigol
*       Systemau olrhain - sicrhau bod modd olrhain staff a bod gweithdrefnau'n cael eu cyflwyno rhag ofn y bydd argyfwng
*       Teithio'n ddiogel - cynghorion ymarferol ar gyfer mathau perthnasol o drafnidiaeth
*       Ymweliadau â chartrefi - arferion gorau o safbwynt diogelwch wrth ymweld â chartrefi - o adael y swyddfa i adael yr ymweliad
*       Deall ymddygiad ymosodol - yn cynnwys adnabod arwyddion rhybudd cynnar ymddygiad ymosodol
*       Rheoli gwrthdaro - yn cynnwys technegau tawelu a datrys corfforol a llafar
*       Cymorth ar ôl digwyddiadau - trefniadau adrodd a chyfrifoldeb y cyflogwr a'r gweithiwr

Hyfforddwr
Suzy Lamplugh Trust

Datganiad o ddiddordeb

I fynegi eich diddordeb yn y cwrs yma llenwch y ffurflen amgaeedig a'i dychwelyd i [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>


Ceisiadau yn cael eu cyfyngu i 2 y sefydliad, fodd bynnag, rydym yn hapus i roi unrhyw geisiadau eraill ar restr aros rhag ofn na fydd y cwrs yn llawn. Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais, cewch neges a gynhyrchir yn awtomatig i gadarnhau bod eich cais wedi ei dderbyn. Nodwch nad yw eich lle yn warantedig hyd nes y byddwch yn derbyn gwahoddiad i'r cwrs gan MALD.


Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Os bydd eich amgylchiadau'n newid ac na fyddwch yn gallu mynd ar y cwrs wedi'r cyfan, cysylltwch â Meleri Lloyd ar unwaith drwy e-bostio [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>  neu ffoniwch 0300 062 2261 er mwyn i rywun arall ar y rhestr aros allu mynd yn eich lle.

Ni fyddwn bellach yn darparu cinio ar gyfer digwyddiadau hyfforddi er mwyn i ni allu cynnal amrywiaeth mor eang â phosibl o gyfleoedd hyfforddi. Serch hynny, byddwn yn parhau i gynnig te a choffi wrth i chi gyrraedd ac yn ystod egwyliau. Byddwn hefyd yn darparu gwybodaeth am y darparwyr bwyd lleol sydd gerllaw lleoliad yr hyfforddiant.

Bydd pob gohebiaeth sy'n ymwneud â'r cwrs hwn yn cael ei hanfon atoch yn electronig ar ôl ichi gofrestru; felly, gofynnwn am gyfeiriad e-bost unigol ar gyfer pob cynrychiolydd.

[X]

This is a bilingual message - Please see below for English version / Neges ddwyieithog yw hon - Gweler isod ar gyfer y fersiwn Saesneg


Lone worker and personal safety training
Storiel - 10-Apr-18
Pontypridd Museum - 17-Apr-18


This training will be delivered through the medium of English

This free course is provided by the Welsh Government and is open to staff and volunteers working in museums, archives and libraries in Wales. It is suitable for those who lone work.

Aim
To raise awareness of risks staff may face while lone working and give them the tools they need to minimise these risks.

By the end of the course participants will be able to
Discuss potential risks and feel more confident in managing their personal safety and conflict situations.

Topics covered include:
*       Lone working - the law and the responsibilities of both employer and employee
*       Risk assessment - identifying and assessing risk related to all aspects of lone working
*       Tracing systems - ensuring staff are traceable and procedures are put in place in case of emergency
*       Travelling safely - practical tips for relevant modes of transport
*       Home visits - best practice for safety while conducting home visits from leaving the office to leaving the visit
*       Understanding aggression - including recognising the early warning signs of aggression
*       Conflict management - including physical and verbal de-escalation and diffusion techniques
*       Post incident support - reporting and the responsibility of employer and employee
Trainer
Suzy Lamplugh Trust

Expression of interest

Please express your interest in this course by completing the attached form and returning it to [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]> .


Requests are limited to 2 per organisation however we are happy to waitlist any others in the event the course is not fully subscribed. Once you have submitted your request your will receive an automatically generated message to confirm that your request has been received. Please note your place is not guaranteed until you receive an invitation to the course from MALD.

Spaces are limited. If your circumstances subsequently change and you can no longer attend notify Meleri Lloyd immediately on [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>  or 0300 062 2261 so your place can be awarded to someone on the waitlist.

In order to maintain as wide a range of training opportunities as possible MALD will no longer provide lunch for training events. We will continue to provide tea and coffee on arrival and during breaks. We will also provide information on available food providers located conveniently near the venue.

All correspondence relating to this course will be sent out electronically once you have registered; therefore you must supply an individual email address for each delegate.


Seáneen McGrogan
Swyddog Casgliadau, Safonau a hyfforddiant
Collections, Standards and Training Officer
Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd.
Museums, Archives and Libraries Division
Department for Economy, Science and Transport
Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Llywodraeth Cymru / Welsh Government
Rhodfa Padarn, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UR
0300 062 2261


Wrth adael Llywodraeth Cymru sganiwyd y neges yma am bob feirws. Mae'n bosibl y bydd gohebiaeth gyda Llywodraeth Cymru yn cael ei logio, ei monitro ac/neu ei chofnodi yn awtomatig am resymau cyfreithiol. Rydym yn croesawu derbyn gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ateb gohebiaeth a dderbynnir yn Gymraeg yn Gymraeg ac ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi. On leaving the Welsh Government this email was scanned for all known viruses. Communications with Welsh Government may be automatically logged, monitored and/or recorded for legal purposes. We welcome receiving correspondence in Welsh. Any correspondence received in Welsh will be answered in Welsh and corresponding in Welsh will not lead to a delay in responding.