Mae rhai’n dweud ‘yr Wyddfa’ a rhai’n dweud ‘y Wyddfa’ hefyd. Ond o ran diddordeb, dim ond ‘Yr Wyddfa’ sydd yn y Bruce!

Mary

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn Iorwerth
Sent: 29 March 2018 17:01
To: [log in to unmask]
Subject: Re: gwybodaeth

 

O ran y/yr. mae’r ffordd mae rhai pobl yn dweud gwybod yn awgrymu mai w gytsain sydd yno ac eraill yn ei ddweud fel petai’n llafariad, h y gwbod. Ai dyma’r rheswm dros yr ansocrwydd. 

Sent from my iPhone


On 29 Mar 2018, at 16:46, Ann Corkett <[log in to unmask]> wrote:

Son am Deipos, dylwn fod wedi dweud "gydaG "yr".

Ann

 

On 29/03/2018 13:20, Ann Corkett wrote:

Fuaswn i ddim yn cytuno o gwbl. Unigol yw'r gair Cymraeg, sut bynnag y byddwch chi'n ei gyfieithu yn y Saesneg, felly "ei rhannu", "ei defnyddio". Byddai'ch fersiynau chi ("ei rannu", "ei ddefnyddio") yn gwneud y gair yn wrywaidd, nid yn lluosog.

(Cymeraf mai "teipo" yw'r "yn cael" yn lle "gael" yn yr ail enghraifft.)

Beth bynnag, defnyddiwch "gellir rhannu gwybodaeth, gellir defnyddio gwybodaeth" a fydd y cwestiwn ddim yn codi.

Gyda llaw, rhag ofn i'r cwestiwn godi, "yr wybodaeth" sy'n gywir (gyda "yr"), ac nid "y wybodaeth".

Ann

On 29/03/2018 13:02, Dafydd Timothy wrote:

Pnawn da!

Er bod 'gwybodaeth' yn fenywaidd, mae hefyd cystal â bod yn lluosog on'd ydy?

Felly ai: 

               fe all gwybodaeth gael ei rannu/rhannu

               a

                 fe all gwybodaeth yn cael ei ddefnyddio/defnyddio

sy'n gywir?

Diolch,

Dafydd

 

Image removed by sender.

Virus-free. www.avast.com



-- 
5 Heol Belmont
BANGOR
Gwynedd
LL57 2HS
(01248) 371987
[log in to unmask]



-- 
5 Heol Belmont
BANGOR
Gwynedd
LL57 2HS
(01248) 371987
[log in to unmask]