Mae gen i go i Cen Williams ddeud yr un peth - y naill neu'r llall yn iawn, dim ond bod yn gyson pia hi.

Anna


Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!

2018-03-29 17:13 GMT+02:00 Rhian Huws <[log in to unmask]>:

Onid mater o farn/chwaith yw “y / yr wybodaeth”, yn hytrach na bod un yn gywirach na’r llall?  Yn ôl Peter Wynn mae ‘yr wybodaeth’ yn arddull gweidwadol ac ‘y wybodaeth’ yn arddull ryddfrydig.

 

Rhian

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:WELSH-TERMAU-CYMRAEG@JISCMAIL.AC.UK] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 29 March 2018 13:21
To: [log in to unmask]AC.UK
Subject: Re: gwybodaeth

 

Fuaswn i ddim yn cytuno o gwbl. Unigol yw'r gair Cymraeg, sut bynnag y byddwch chi'n ei gyfieithu yn y Saesneg, felly "ei rhannu", "ei defnyddio". Byddai'ch fersiynau chi ("ei rannu", "ei ddefnyddio") yn gwneud y gair yn wrywaidd, nid yn lluosog.

(Cymeraf mai "teipo" yw'r "yn cael" yn lle "gael" yn yr ail enghraifft.)

Beth bynnag, defnyddiwch "gellir rhannu gwybodaeth, gellir defnyddio gwybodaeth" a fydd y cwestiwn ddim yn codi.

Gyda llaw, rhag ofn i'r cwestiwn godi, "yr wybodaeth" sy'n gywir (gyda "yr"), ac nid "y wybodaeth".

Ann

On 29/03/2018 13:02, Dafydd Timothy wrote:

Pnawn da!

Er bod 'gwybodaeth' yn fenywaidd, mae hefyd cystal â bod yn lluosog on'd ydy?

Felly ai: 

               fe all gwybodaeth gael ei rannu/rhannu

               a

                 fe all gwybodaeth yn cael ei ddefnyddio/defnyddio

sy'n gywir?

Diolch,

Dafydd

 

Virus-free. www.avast.com



-- 
5 Heol Belmont
BANGOR
Gwynedd
LL57 2HS
(01248) 371987
[log in to unmask]