Onid mater o farn/chwaith yw “y / yr wybodaeth”, yn hytrach na bod un yn gywirach na’r llall? Yn ôl Peter Wynn mae ‘yr wybodaeth’ yn arddull gweidwadol ac ‘y wybodaeth’ yn arddull ryddfrydig.
Rhian
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:WELSH-TERMAU-CYMRAEG@
JISCMAIL.AC.UK ] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 29 March 2018 13:21
To: [log in to unmask]AC.UK
Subject: Re: gwybodaeth
Fuaswn i ddim yn cytuno o gwbl. Unigol yw'r gair Cymraeg, sut bynnag y byddwch chi'n ei gyfieithu yn y Saesneg, felly "ei rhannu", "ei defnyddio". Byddai'ch fersiynau chi ("ei rannu", "ei ddefnyddio") yn gwneud y gair yn wrywaidd, nid yn lluosog.
(Cymeraf mai "teipo" yw'r "yn cael" yn lle "gael" yn yr ail enghraifft.)
Beth bynnag, defnyddiwch "gellir rhannu gwybodaeth, gellir defnyddio gwybodaeth" a fydd y cwestiwn ddim yn codi.
Gyda llaw, rhag ofn i'r cwestiwn godi, "yr wybodaeth" sy'n gywir (gyda "yr"), ac nid "y wybodaeth".
Ann
On 29/03/2018 13:02, Dafydd Timothy wrote:
Pnawn da!
Er bod 'gwybodaeth' yn fenywaidd, mae hefyd cystal â bod yn lluosog on'd ydy?
Felly ai:
fe all gwybodaeth gael ei rannu/rhannu
a
fe all gwybodaeth yn cael ei ddefnyddio/defnyddio
sy'n gywir?
Diolch,
Dafydd
Virus-free. www.avast.com
--5 Heol BelmontBANGORGwyneddLL57 2HS(01248) 371987[log in to unmask]