Print

Print


Mae gen i go i Cen Williams ddeud yr un peth - y naill neu'r llall yn iawn,
dim ond bod yn gyson pia hi.

Anna


Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!

2018-03-29 17:13 GMT+02:00 Rhian Huws <
[log in to unmask]>:

> Onid mater o farn/chwaith yw “y / yr wybodaeth”, yn hytrach na bod un yn
> gywirach na’r llall?  Yn ôl Peter Wynn mae ‘yr wybodaeth’ yn arddull
> gweidwadol ac ‘y wybodaeth’ yn arddull ryddfrydig.
>
>
>
> Rhian
>
>
>
> *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of *Ann Corkett
> *Sent:* 29 March 2018 13:21
> *To:* [log in to unmask]
> *Subject:* Re: gwybodaeth
>
>
>
> Fuaswn i ddim yn cytuno o gwbl. Unigol yw'r gair Cymraeg, sut bynnag y
> byddwch chi'n ei gyfieithu yn y Saesneg, felly "ei rhannu", "ei defnyddio".
> Byddai'ch fersiynau chi ("ei rannu", "ei ddefnyddio") yn gwneud y gair yn
> wrywaidd, nid yn lluosog.
>
> (Cymeraf mai "teipo" yw'r "yn cael" yn lle "gael" yn yr ail enghraifft.)
>
> Beth bynnag, defnyddiwch "gellir rhannu gwybodaeth, gellir defnyddio
> gwybodaeth" a fydd y cwestiwn ddim yn codi.
>
> Gyda llaw, rhag ofn i'r cwestiwn godi, "yr wybodaeth" sy'n gywir (gyda
> "yr"), ac nid "y wybodaeth".
>
> Ann
>
> On 29/03/2018 13:02, Dafydd Timothy wrote:
>
> Pnawn da!
>
> Er bod 'gwybodaeth' yn fenywaidd, mae hefyd cystal â bod yn lluosog on'd
> ydy?
>
> Felly ai:
>
>                fe all gwybodaeth gael ei r*annu/rhannu*
>
>                a
>
>                  fe all gwybodaeth yn cael ei *ddefnyddio/defnyddio*
>
> sy'n gywir?
>
> Diolch,
>
> Dafydd
>
>
>
>
> <https://www.avast.com/sig-email?utm_medium=email&utm_source=link&utm_campaign=sig-email&utm_content=emailclient>
>
> Virus-free. www.avast.com
> <https://www.avast.com/sig-email?utm_medium=email&utm_source=link&utm_campaign=sig-email&utm_content=emailclient>
>
>
>
> --
>
> 5 Heol Belmont <https://maps.google.com/?q=5+Heol+Belmont+BANGOR+Gwynedd+LL57+2HS&entry=gmail&source=g>
>
> BANGOR <https://maps.google.com/?q=5+Heol+Belmont+BANGOR+Gwynedd+LL57+2HS&entry=gmail&source=g>
>
> Gwynedd <https://maps.google.com/?q=5+Heol+Belmont+BANGOR+Gwynedd+LL57+2HS&entry=gmail&source=g>
>
> LL57 2HS <https://maps.google.com/?q=5+Heol+Belmont+BANGOR+Gwynedd+LL57+2HS&entry=gmail&source=g>
>
> (01248) 371987
>
> [log in to unmask]
>
>