Hefyd, mae TermCymru’n rhoi “dan fygythiad” am “vulnerable” (Amgylchedd) (Statws A) a “defnydd sy’n peryglu” am “vulnerable use” (Cynllunio) (Statws C).

Siân


On 16 Mar 2018, at 10:04, Claire Richards <[log in to unmask]> wrote:

Yn y Nodyn Cyngor Technegol ar lifogydd (TAN 15), defnyddir ‘agored iawn i niwed’.
 
Er enghraifft, ar dudalen 23 dywedir “highly vulnerable uses may not be considered acceptable in accordance with section 7 and appendix 1.” ac yn Gymraeg “mewn rhai achosion gellir dod i’r casgliad bod rhai mathau o ddefnydd sy’n agored iawn i niwed yn anaddas yn ôl adran 7 ac atodiad 1.”.
 
Claire
 
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Dafydd Timothy
Sent: 16 March 2018 09:46
To: [log in to unmask]
Subject: Highly Vulnerable
 

Bore da!

Yng nghyd-destun risg llifogydd, mae'r ddogfen yn sôn am ardaloedd sydd yn Highly Vulnerable, ac ymhellach:

The site may already benefit from Highly Vulnerable use, gan ddefnyddio prif lythrennau, felly a oes term swyddogol yn Gymraeg?

Diolch,

Dafydd

 
Virus-free. www.avast.com