Mae’n dibynnu pwy luniodd y darn Cymraeg dan sylw.

 

Mae’n ddigon posibl bod rhywun wedi cael hyd i ‘gwaddod’ am ‘precipitate’ mewn geiriadur ac wedi’i ddefnyddio heb ystyried y cyd-destun.

 

Alla i ddim meddwl am unrhyw reswm arall dros ddefnyddio’r gair ‘gwaddod’.   O gofio mai’r geiriau Saesneg a roddir yn GPC yw “sediment, deposit, lees, dregs; leaven; alluvium; worthless remains, refuse, dross, impurity”

 

Perpetuating, protective, precipitating, predisposing yw’r pedwar ffactor y sonnir amdanyn nhw yn y maes.

 

Claire

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 08 March 2018 12:56
To: [log in to unmask]
Subject: Re: RHAGDUEDD

 

Fedra i ddim meddwl bod "ffactorau gwaddod" yn gywir - am "precipitating" gweler GyA:

precipitate3

[-]1.v.t. ... (c). (=hasten): cyflymu, prysuro, symbylu

(=bring about): ysgogi, peri, achosi

Geraint

 

On 08/03/2018 12:46, Claire Richards wrote:

Byddwn i’n meddwl...

 

ffactorau bytholi – perpetuating factors

 

ffactorau amddiffynnol = protective factors

 

ffactorau gwaddod – precipitating factors (!!)

 

Fel dywed Maire, ffactorau rhagduedd – predisposing factors

 

Dwi’n seilio hyn ar restr o ffactorau yma https://www.wiley.com/legacy/Australia/PageProofs/c12MentalDisorder_web.pdf

 

Claire

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Dafydd Timothy
Sent: 08 March 2018 12:28
To: [log in to unmask]
Subject: RHAGDUEDD

 

Pnaw da...

o'r Gymraeg i'r Saesneg tro 'ma!

Y cyd-destun ydy ffactorau seicolegol yn ymwneud ag ymddygiad:

Ffactorau Rhagduedd

Ffactorau Gwaddod

Ffactorau Bytholi

Ffactorau Amddiffynnol

Beth fyddai'r Saesneg cyfatebol?

Prepossessive Factors

Residual

Perpetuating

Defensive ?

Diolch,

Dafydd

 

https://ipmcdn.avast.com/images/icons/icon-envelope-tick-round-orange-animated-no-repeat-v1.gif

Virus-free. www.avast.com