Mae’n dibynnu pwy luniodd y darn Cymraeg dan sylw.
Mae’n ddigon posibl bod rhywun wedi cael hyd i ‘gwaddod’ am ‘precipitate’ mewn geiriadur ac wedi’i ddefnyddio heb ystyried y cyd-destun.
Alla i ddim meddwl am unrhyw reswm arall dros ddefnyddio’r gair ‘gwaddod’. O gofio mai’r geiriau Saesneg a roddir yn GPC yw “sediment, deposit,
lees, dregs; leaven; alluvium; worthless remains, refuse, dross, impurity”
Perpetuating, protective, precipitating,
predisposing yw’r pedwar ffactor y sonnir amdanyn nhw yn y maes.
Claire
From: Discussion of Welsh language
technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]
On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 08 March 2018 12:56
To: [log in to unmask]
Subject: Re: RHAGDUEDD
Fedra i ddim meddwl bod "ffactorau gwaddod" yn gywir - am "precipitating" gweler GyA:
precipitate3
[-]1.v.t. ... (c). (=hasten): cyflymu, prysuro, symbylu
(=bring about): ysgogi, peri, achosi
Geraint
On 08/03/2018 12:46, Claire Richards wrote:
Byddwn i’n meddwl...
ffactorau bytholi – perpetuating factors
ffactorau amddiffynnol = protective factors
ffactorau gwaddod – precipitating factors (!!)
Fel dywed Maire, ffactorau rhagduedd – predisposing factors
Dwi’n seilio hyn ar restr o ffactorau yma https://www.wiley.com/legacy/Australia/PageProofs/c12MentalDisorder_web.pdf
Claire
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Dafydd Timothy
Sent: 08 March 2018 12:28
To: [log in to unmask]
Subject: RHAGDUEDD
Pnaw da...
o'r Gymraeg i'r Saesneg tro 'ma!
Y cyd-destun ydy ffactorau seicolegol yn ymwneud ag ymddygiad:
Ffactorau Rhagduedd
Ffactorau Gwaddod
Ffactorau Bytholi
Ffactorau Amddiffynnol
Beth fyddai'r Saesneg cyfatebol?
Prepossessive Factors
Residual
Perpetuating
Defensive ?
Diolch,
Dafydd