Print

Print


Adroddiad hunanasesu gan adran Gwyddoniaeth (mewn ysgol uwchradd Gymraeg) ydy’r cyd-destun.

 

Mae’r adroddiad yn cyfeirio at ‘Diwrnodau CDAG/CBAC’.

 

Tybed a oes unrhyw un yn gwybod beth ydy CDAG?

 

Dwi wedi gweld un cyfeiriad ato yma: www.amdro.org.uk/sitecollectiondocuments/swamwac_newsletter_january_2009.doc

 

·        Links and information on major providers of information/support could be a useful addition to swamwac web site e.g., GCaD/NGFL, CBAC/WJEC, CACC/GTCW, CDAG etc.

 

Hefyd mae cyfeiriad mewn dogfen o’r enw ‘Review of Intial Training Provision in Wales A Report to the Welsh Assembly Government 2006 (John Furlong, Hazel Hagger, and Cerys Butcher, University of Oxford Department of Educational Studies) mae cyfeiriad at un o’r cyfranogwyr:

 

Mrs Meriell Parry Prifathro, Ysgol Gynradd Tregarth [also Chair of CDAG]

 

Dwi wedi gweld cyfeiriad at Ganolfan Datblygu Addysg Gymunedol ar wefan y Cynulliad (http://gov.wales/statistics-and-research/review-adult-continuing-education-delivered-through-local-authorities/?lang=cy) ond dydy’r cyd-destun ddim yn awgrymu hynny rywsut. A oes unrhyw CDAG arall? Mae’r ddogfen yn defnyddio cymysgedd o acronymau Cymraeg a Saesneg, rhai ohonynt yn anghyfarwydd, felly mae hynny’n peri dryswch braidd.