Gair rhyfedd iawn ydi blwydd/blwyddyn/blynedd ynde!
On 23/02/2018 11:49, Claire Richards wrote:
Mae’n rhaid bod pobl wedi cael y treiglad trwynol yn haws i’w ynganu na’r treiglad meddal ar ôl y llythyren n.
Nid dim ond yn y rhif cyfansawdd, chwaith. Mae GyrA yn rhoi “a year old, blwydd oed, un mlwydd oed”.
Claire
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:WELSH-TERMAU-CYMRAEG@
JISCMAIL.AC.UK ] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 23 February 2018 11:29
To: [log in to unmask]AC.UK
Subject: Re: 21 mlynedd
Ie wrth gwrs, cyfeirio at oedran fyddai "un flwydd ar hugain"
Dwi'n meddwl mai "un flwyddyn ar hugain"/"un mlynedd ar hugain" oedd y dryswch gen i.
Ac o dderbyn mai "un mlynedd ar hugain" ydi'r consensws - pam treiglo'n drwynol ar ol "un" 'cyfansawdd'?? A phetai hynny'n rheol go iawn, pam ddim "un mlwyddyn ar hugain"? Od iawn. Dwi'n meddwl bod TJM yn blyffio fan hyn! ;-)
Byddai dweud "un ar hugain mlynedd" yn setlo'r mater yn bysa.
GeraintOn 23/02/2018 10:11, Sian Roberts wrote:
Yn ôl TJM,tud 130, mae “blwyddyn” yn cymryd tr.m. ar ôl “un” sengl (“un flwyddyn”);… ond tr.tr. sy’n dilyn “un” ‘cyfansawdd’ - "un mlwydd ar bymtheg” / “un mlynedd ar bymtheg".
Ydi “un mlwydd ar hugain” yn cyfeirio at oedran ac “un mlynedd ar hugain” yn cyfeirio at gyfnod o amser yn gyffredinol?
Siân
On 23 Feb 2018, at 09:55, Geraint Lovgreen <00001b1f99a4c9b2-dmarc-
[log in to unmask] > wrote:
Help,
Dwi wedi cael bloc ymenyddol braidd ac yn methu meddwl pa un sy'n gywir - un flwydd ar hugain ynteu un mlynedd ar hugain? Dwi'n tueddu at y cyntaf ond yn dechrau amau fy hun, a fedra i ddim ffeindio'r ateb yng Ngramadeg PWT.
Gwerthfawrogir unrhyw oleuni!
Geraint
Virus-free. www.avg.com