Print

Print


Oes rhaid cael y tramgwyddwyr o gwbl?
Oni fyddai “…y rhai a riportiwyd am gamymddwyn…” yn fwy naturiol yn Gymraeg?

Siân


On 22 Feb 2018, at 15:03, Mary Jones <[log in to unmask]> wrote:

Fedrwch chi ddim ‘adrodd person’, does bosib, waeth pa mor gyfleus fyddai hynny wrth gyfieithu. ‘Tramgwyddwyr y rhoddwyd gwybod amdanynt’ fyddai’r gystrawen gywir, ond rhwng y ‘cyfieithydd’ a’i dduw wedyn a yw hynny o bwys. 
Mary
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Gareth Evans Jones
Sent: 22 February 2018 14:48
To: [log in to unmask]
Subject: Re: reported
 
Dyma oedd y gwreiddiol:

In the USA, one study found that the majority of reported perpetrators of staff sexual misconduct against children and young people were female

Dyma'r cyfieithiad:

Yn UDA, canfu un astudiaeth fod y mwyafrif o dramgwyddwyr a adroddwyd am gamymddygiad rhywiol gan staff yn erbyn plant a phobl ifanc yn fenywod 


----Original message----
From : [log in to unmask]
Date : 22/02/2018 - 14:37 (GMTST)
To : [log in to unmask]
Subject : Re: reported

Rwy’n dueddol o ddefnyddio ‘riportio’ a ‘riportiwyd’ ac ati mewn sefyllfa fel hon. Teimlad gennyf y dylai gael ei fabwysiadu’n ehangach, am mai dyma a ddefnyddir ar lafar bob amser…
Beth yw barn y cylch?
 
Bethan
 
Bethan Mair MA
Y Gwasanaeth Geiriau  
The Word Service
 
07779 102224
Skype: bethanmair54
 
Ms Bethan Mair Hughes
Y Berth
29 Coed Bach
Pontarddulais
Abertawe / Swansea
SA4 8RB
 
On 22 Chwef 2018, at 14:17, Sian Roberts <[log in to unmask]> wrote:


Er mwyn cael y cyfieithiad gorau, swn i’n dweud ei bod yn dibynnu pa mor ffurfiol yw’r darn, beth wnaeth y perpetrators ac i bwy y cawson nhw eu riportio.


Siân



On 22 Feb 2018, at 13:43, Gareth Evans Jones <[log in to unmask]> wrote:

Dwi wedi cael cyfieithiad i'w olygu. Ydy'r canlynol yn gyfieithiad cywir o 'the majority of reported perpetrators' (h.y. perpetrators who had been reported/were reported')?

y mwyafrif o dramgwyddwyr a adroddwyd

Mae'r defnydd o 'adrodd' yn swnio braidd yn chwithig i mi.