Rwy’n dueddol o ddefnyddio ‘riportio’ a ‘riportiwyd’ ac ati mewn sefyllfa fel hon. Teimlad gennyf y dylai gael ei fabwysiadu’n ehangach, am mai dyma a ddefnyddir ar lafar bob amser…
Beth yw barn y cylch?

Bethan

Bethan Mair MA
Y Gwasanaeth Geiriau  
The Word Service

07779 102224
Skype: bethanmair54

Ms Bethan Mair Hughes
Y Berth
29 Coed Bach
Pontarddulais
Abertawe / Swansea
SA4 8RB

On 22 Chwef 2018, at 14:17, Sian Roberts <[log in to unmask]> wrote:

Er mwyn cael y cyfieithiad gorau, swn i’n dweud ei bod yn dibynnu pa mor ffurfiol yw’r darn, beth wnaeth y perpetrators ac i bwy y cawson nhw eu riportio.


Siân


On 22 Feb 2018, at 13:43, Gareth Evans Jones <[log in to unmask]> wrote:

Dwi wedi cael cyfieithiad i'w olygu. Ydy'r canlynol yn gyfieithiad cywir o 'the majority of reported perpetrators' (h.y. perpetrators who had been reported/were reported')?

y mwyafrif o dramgwyddwyr a adroddwyd

Mae'r defnydd o 'adrodd' yn swnio braidd yn chwithig i mi.