Yn Plentyn y Gryffalo mae'n dweud "Y llygoden fwya drwg, fwya blin fu erioed." Hefyd - y llygoden ddrwg, flin a dro arall 'llygoden fawr flin' - sy'n gryfach na llew!!
Ai’r cymeriad yn “The Gruffalo’s Child” sydd mewn golwg?
Mae’r llyfr wedi ei gyfieithu – “Plentyn y Gryffalo”. Tybed sut aeth y cyfieithydd ati yn y llyfr hwnnw? Does gen i ddim copi, arna’i ofn.
Joanne
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:WELSH-TERMAU-CYMRAEG@
JISCMAIL.AC.UK ] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 20 February 2018 09:17
To: [log in to unmask]AC.UK
Subject: The Big Bad Mouse
Cymeriad mewn stori i blant. Does na ddim ffordd o fath yn y byd, oes na, o wahaniaethu yn Gymraeg rhwng big bad mouse and bad rat? Fedra i ddim deud 'llygoden fach fawr ddrwg', decini? Tydi hi ddim yn ddiwedd y byd - nid cyfieithu'r stori rydw i, dim ond cyhoeddusrwydd i addasiad theatr ohoni - ond maen nhw'n ddau beth cwbwl wahanol o ran cysyniad ac mae'n dan ar y nghroen i braidd.
Anna